Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Pan ddeffrowyd sylw Coke at gyflwr truenus paganiaid ac eilunaddolwyr y byd, cafodd yr India Ddwyreiniol le arbenig yn ei feddwl fel maes eang i lafur Cenhadol ffrwythlon; a rhai blynyddoedd cyn i'r enwog William Carey, o fythol goffawdwriaeth, fyned yno, yr oedd of wedi bod yn gwneuthur ymchwiliadau yn nghylch ansawdd y wlad fel man y gellid edrych arni fel lle i sefydlu ynddi Genhadaeth Gristionogol. Ar yr un pryd cyfyngodd ei ymdrechion at gyflwr a sefyllfa gwledydd eraill hyd y Hwyddyn 1813. Yr oedd wedi gosod ei fryd ar India, ac wedi bod yn rhag barotoi ar gyfer myned yno. Yn y Gynhadledd y flwyddyn hono gosododd ei gynlluniau ger bron, a dywedodd Yr wyf yn farw i Ewrop, ac yn fyw i India. Y diwrnod cyntaf y bu yr achos dan sylw yr oedd teimlad y Gynhadledd yn gryf yn erbyn ei gynlluniau. Yr oedd ef y pryd hyny yn tynu at 67 ocd, a cheisiai ei gyfeillion ei berswadio i roddi yr anturiaeth i fyny ar gyfrif ei oedran ef a drudaniaeth angenrheidiol yr anturiaeth. Aeth i'w letty y noson hono yn ddigon digalon, ac i'r Gynhadledd bore dranoeth heb fod wedi cysgu, ond yn ymbil gyd â Duw ar hyd y nos, am wneyd ei ffordd yn rhydd. Y dydd hwnw ymrwymodd i gymeryd arno ei hun draul sefydliad Cenhadaeth i India hyd i chwe' mil o bunnau; a therfynodd ei gynygiad, a'i ddagrau yn llifo dros ei ruddiau, drwy ddywedyd- Os na chaf fyned i India, chwi a dorwch fy nghalon.' Yn ngwyneb apeliadau mor sylweddol ac effeithiol, nis gallai y Gynhadledd ei wrthsefyll yn hwy; ac ar y 30 o Ragfyr, 1813, gyd a'i fraich yn mraich ei gyfaill hoff, Jonathan Edmondson, gwelwyd ef yn cerdded at y cwch yn Portsmouth, yn canu yn iach i Loegr, a chyd â chwech o Genhadon ieuainc dan ei ofal, yn cychwyn am Ynys Ceylon. Yn fore y trydydd dydd yn Mai dilynol, cafwyd ei ddaearol dy yn oer a difywyd ar waelod ei gaban, ei enaid seraphaidd wedi ei adael, ac, yn hollol ddirybudd ac annisgwyliadwy, wedi cymeryd ei hedfan fry, i ymddisgleirio fel y sêr byth ac yn dragywydd.' Bu farw o dan ergyd o'r parlys, fel y tybid, heb neb o'i frodyr na neb arall yn ymyl i fod yn dystion o'i ymadawiad. Cyflwynwyd ci wedd anwyl i'r eigion mawr yn nghanol pryder, ochain, a dagrau y Cenhadon, a difrifoldeb y rhai oll a'i hadwaenai, i aros y dydd pan y bydd raid i'r môr roddi i fyny y meirw sydd ynddo; a phriodol y sylwid fod pob lle, heblaw y môr mawr, llydan, a dwfn, yn rhy gyfyng o gladdfa i galon mor fawr ag eiddo y Doctor. Bu farw cyn cael cyrhaedd y tir yr oedd wedi gosod ei fryd ar gael bod ynddo yn llafurio dros Grist, ond cafodd anadlu ei awelon, a chyda'r awelon hyny anfon i'r nef ei ochenaid olaf am lwyddiant ar yr anturiaeth Genhadol."

Ceir crybwylliad am ei farwolaeth yn "Yr Eurgrawn Wesleyaidd" am 1814, tudalen 425, ac hefyd linellau barddonol ar yr achlysur gan y Parch. William Davies, 1af, yn yr un Eurgrawn, tudalen 428.

Fel y nodwyd yn y Gynhadledd y flwyddyn hon, dygwyd yr Amalgamation i weithrediad yn y Deheudir mewn amryw engreifftiau, ond yn mhob engraifft er anfantais i'r achosion Cymreig. Rhoddwyd y Parch. David Rogers i lawr ar Aberhonddu, i lafurio yn y gwaith Seisnig, a bydd. ymddygiad y Seison yn mhentref y gylchdaith tuag ato yn