Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1813, bu lleihad yn rhif yr aelodau o 130. Safai rhif y Cylchdeithiau fel o'r blaen; ond bu lleihad o un yn rhif y Gweinidogion trwy i Stephen Parry encilio. Ar ol y Gynhadledd y flwyddyn hon, a chyn y Nadolig, galwyd allan i waith y Weinidogaeth—

RICHARD BONNER, o Tyddyn Sach, Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Yr oedd Mr. Bonner yn gymeriad tra neillduol yn ddyn tâl, cyd-nerth, o ymddangosiad difrifol; ond er hyny yn llawn nwyfiant, a'i arabedd yn ddiarbedol. Medrai gynhyrfu cynulleidfa o'r pwlpud, neu oddiar y llwyfan yn ol ei ewyllys. Cyfansoddai ei bregethau yn fanwl, ac efallai mai efe oedd y pregethwr mwyaf modern ei arddull, o'r rhai a gydoesent âg ef. Medrai wneyd defnydd da mewn cwmni o eiriau fel "Cefnygribin," "Penygroes," a "Croesau Gwynion," fel y cafwyd engreifftiau o'i ymddiddan a'r Parchn. Isaac Jones, John Jones (F), ac eraill. Cofia llawer o'r rhai sydd yn aros hyd heddyw, am odfaon anghyffredin a gafodd. Cafodd odfa felly yn Nghyfarfod Talaethol Dolgellau, 1841, pan yn pregethu ar y testyn-"Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist," &c., 1 Petr i. 3. Bu farw yn Nghaernarfon, Gorphenaf 28ain, 1867, yn 80ain mlwydd oed, a'r 53ain o'i weinidogaeth.

Yn Nghynadledd 1814, daeth nifer y Cylchdeithiau yn "Y Dalaeth Genhadol Gymreig" i lawr i 16eg, trwy i 5 0 Gylchdeithiau yn y Deheudir gael eu cysylltu â'r achos Saesnig, sef Caerfyrddin, Abertawe, Merthyr, Aberhonddu, a Chaerdydd. Aeth y Parch. David Rogers i'r gwaith Saesnig y flwyddyn hon, a gadawodd John Williams, Sarn Wilkin, y gwaith.

Yn ystod y flwyddyn Gyfundebol a derfynai ar gyfarfyddiad y Gynhadledd yn Bristol, bu farw yr enwog Dr. Coke, o Aberhonddu, ac yn ei farwolaeth ef collodd yr achos Wesleyaidd Cymreig ei noddwr penaf yn y Cyfundeb. Trwy ei offerynoliaeth ef y llwyddwyd gyd â'r Gynhadledd i sefydlu Cenhadaeth Wesleyaidd yn Nghymru, ac i fesur helaeth iawn dibynai ein Gweinidogion Cymreig cyntaf am eu cynhaliaeth ar y Drysorfa Genhadol. Fel Cymro, yr oedd yr achos Cymreig yn agos iawn at ei galon, ac nid oedd ball ar ei gydymdeimlad a'i amgylchiadau. Ond nid oedd Cymru, Iwerddon, Ewrop oll, nag America ychwaith yn ddigon i derfynau eang ei gydymdeimlad ef, ac am hyny efe a osododd ei fryd ar sefydlu Cenhadaeth Gristionogol yn India. Ar y mater hwn difynwn a ganlyn o Ddarlith y diweddar Barch. Samuel Davies ar Thomas Coke, Ll.D.—