Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VII.

Ad-weithiad a Phrofedigaethau yn gosod Methodistiaeth
Wesleyaidd Gymreig dan brawf
llym a chwerw.

(O 1811 hyd 1817).

GYD â'r bennod cyn y ddiweddaf gadawsom yr achos ar derfyn tymor o lwyddiant anghyffredin—llwyddiant na ddarllenir am ei hafal, ond mewn ychydig o engreifftiau yn hanes yr Eglwys, yn neillduol yn Nghymru. Ond yn awr y mae genym i gofnodi tymhor o ad-weithiad a phrofedigaethau. Goddiweddid yr achos y naill flwyddyn ar ol y llall gan anffodion a thrallodion lawer, y rhai y teimlwyd o'u herwydd am amser maith. Yn ystod y chwe' blynedd, sef o 1811 hyd 1817, bu lleihad o 1046 yn rhif yr aelodau. Eu rhif yn 1811 oedd 5700, ond erbyn 1817 yr oeddynt wedi dyfod i lawr i 4654.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1812 yn Leeds, dan lywyddiaeth y duwiolfrydig, y Parch. J. Entwistle. Ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Llangollen. Ceir pedwar o enwau newyddion eraill yn y sefydliadau, sef Caerdydd, Abertawe, Tyddewi, a Threffynnon, ond nid yw y rhai hyn i'w hystyried yn gylchdeithiau ychwanegol, canys collir o'r sefydliadau, Caerphily, Castellnedd, a Llanbedr, a gosodir Dinbych mewn cysylltiad â Rhuthyn, ac felly nid oedd ond un gylchdaith ychwanegol. Yr oedd rhif y cylchdeithiau y flwyddyn hon yn 21, y rhif mwyaf a fu o'r dechreu hyd yn awr. Ni alwyd neb allan o'r newydd i'r weinidogaeth y flwyddyn hon, a safai rhif y gweinidogion yr un a'r flwyddyn flaenorol. Enciliodd James James, ond ail-ymaflodd John Williams, 1af yn ei waith ar ol bod yn uwchrif am dymhor.