Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyf yn ameu fy hun, gan feddwl fod poethder ysbryd, fel'y mae yn rhy debygol, wedi ymgynhyrfu ynof, a'i effeithiau i'w ganfod mewn rhai o'm hymadroddion, oddiar achlysuron trymion yn aml, yn nywediadau y blaid a wrthwynebais. Er yr holl anogiadau annhirion a gefais, yn argraffedig, ac yn mhob modd arall, mae yn debygol y dylaswn arfer addfwynder mwy at fy ngwrthwynebwr, ond efallai y'nghyd a llymder mwy at ei gyfeiliornadau. Yn ngwyneb fy holl golliadau, dymunaf erfyn ar Dduw pob gras am faddeuant a meddyginiaeth.

Mewn cysylltiad â'r ddadl, cyhoeddwyd nifer o fân weithiau yn y cyfnod hwn gan Christmas Evans, George Lewis, D.D., John Parry, Caer, ac eraill. Ond nid ydynt o'r fath deilyngdod, fel ag i gael lle amlwg yn hanes y dadleuon. Ar ol hyn cafwyd ychydig o seibiant oddiwrth y "Dadleuon Athrawiaethol," ond nid am fod y Wesleyaid wedi cilio o'r maes, ac wedi rhoddi eu harfogaeth o'r neilldu, fel y cawn weled ragllaw.