Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychydig, a phoenai hyny y Calfiniaid yn fawr, ac ar y cyntaf, methent ddeall pa fodd y dygwyd gwaith mor fawr allan mor fuan. Ond y dirgelwch oedd fod Mr. Davies wedi cael copy o lyfr Mr. Jones yn lleni fel ei hargreffid, a mawr y beio fu arno am hyn. Ond pa niwed oedd yn y peth? Ai onid yw yn beth cyffredin i rai sydd yn adolygu llyfrau i gael Advanced Copy? Eithr y drwg oedd, ddarfod i ymddangosiad prydlon llyfr Mr. Davies atal i lyfr Mr. Jones gael y cylchrediad a'r dylanwad a ddisgwylid iddo. gael. A'r modd i ddial ar Mr. Davies oedd ceisio ei ddifrïo, a'i bardduo, ond methiant hollol fu yr ymgais hon hefyd.

Ond ni roddodd y Parch. Thomas Jones i fyny, eithr cyhoeddodd lyfr drachefn, sef "Sylwadau ar Lyfr Mr. Owen Davies, sef ei ymddiddanion rhwng Hyffordd a Beread, yn nghyd a gwobr o bwys yn gynygedig iddo ar amod teg. Gan Thomas Jones, Ruthin. Bala: Argraffedig gan R. Saunderson, 1808." Nid oes dim byd newydd yn y llyfr hwn, ond yr arwyddion fod Mr. Jones yn poethi yn y ddadl, ac i gryn fesur yn dechreu colli ei dymher, ac yn lle dadleu yn deg, yn taeri ac yn herio.

Ond nid dyn i ildio ei dir i'r gelyn oedd y Parch. Owen Davies, na, ond ymgryfhaodd unwaith eto, a chyhoeddodd atebiad i lyfr Mr. Jones, sef, llythyr oddiwrth Owen Davies. at Mr. Thomas Jones. Dolgellau Argraffwyd gan R. Jones, 1811. Gyd â'r llyfr hwn terfynodd y ddadl rhwng y Parchn. Owen Davies a Thomas Jones. Nid atebodd Mr. Jones byth lythyr diweddaf Mr. Davies. Paham na wnaeth? gadawn i'r darllenydd gasglu. Fodd bynag, rhaid addef i'r ddau arfer geiriau lled gryfion, ac i Mr. Jones gamliwio Wesleyaeth mewn modd hollol anesgusodol, eto da genym weled fod y ddau yn barod i gydnabod fod ynddynt ddiffygion. Dyma fel y terfynai Mr. Owen Davies ei lythyr olaf at Mr. Thomas Jones. "Fodd bynag i ddiweddu, lle yr ydych chwi a minau, yn gystal a rhai eraill efallai, wedi bod yn fyr o lywodraethu ein tymherau a'n hysbrydoedd, maddeued Duw ini. A chredwch fy mod eich ewyllysiwr da, a'ch ceryddwr ffyddlawn, Owen Davies." Ac mewn cyfeiriad at y dadleuon y cymerodd ef—y Parch. Thomas Jones ran ynddynt, dywed—"Eto yr