Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Athrawiaethau y Wesleyaid yn ddiwahan, a'r llall yn fwy uniongyrchol yn erbyn fy mhregeth i. Y cyntaf a ysgrifenwyd gan 'Hen Finer,' a'r diweddaf gan ŵr o'r enw Evan Evans." Gyda fod pregeth y Parch. Samuel Davies wedi ei chyhoeddi, cyhoeddwyd "Ymddiddanion rhwng Thomas y Collier a Dafydd y Miner, yn y flwyddyn 1818, yn nghylch amryw bynciau y Grefydd Gristionogol. Wedi eu hysgrifenu er Addysg Proffeswyr Ieuainc ac eraill. Gan Hen Finer. Trefriw: Argraffwyd gan Samuel Williams." Pwy bynag oedd yr "Hen Finer," ysgrifenai yn ddigon rhwydd. Ond y drwg oedd, mai nid yn erbyn Arminiaeth Efengylaidd y Wesleyaid yr ysgrifenai, ond yn erbyn rhyw Arminiaeth o'i ddychymyg ei hun. Nid oedd wedi ymgydnabyddu, medd Dr. Owen Thomas, âg ysgrifeniadau yr Awdwyr galluocaf ar y testynau dan sylw ganddo. Ac ni feddai ond ychydig o allu i fyned i mewn gyd âg un manylder i ystyr yr ysgrythyrau a ddifynid ganddo er ceisio gwrth-brofi y syniadau yr ysgrifenai yn eu herbyn.

Yn y flwyddyn 1819 cyhoeddwyd atebiad i'r llyfr hwn. dan yr enw "Amddiffynwr y gwir; yn yr hwn y dangosir oferedd ymddiddanion y Collier a'r Miner, ac mor afresymol ac anysgrythyrol yw yr athrawiaethau ag y maent hwy o'u plaid." Awdwr y llyfr hwn oedd y Parch. Edward Jones, Llandysilio. Deallai Mr. Jones Galfiniaeth yn dda, a bu agos iddi fod yn foddion i ro'i terfyn ar ei fywyd pan y cofleidiai hi. Yr oedd y Calfiniaid yn gryn elynion iddo, a hyny am ei fod yn gallu llwyddo mor effeithiol i ddangos yr Athrawiaethau Calfinaidd mor ofnadwy arswydus yn eu canlyniadau rhesymegol. Medrai ysgrifenu yn ddoniol a ffraeth, ac mewn dull digwmpas darluniai Galfiniaeth yn ei lliw priodol ei hun. Nid ydym yn tybio y gallwn roddi gwell darluniad o hono fel dadleuydd na'r un a nodir gan y Parch. Samuel Davies yn Nghofiant y Parch. Samuel Davies, 1af. Buasai yn ddifyr genym, er mwyn ein darllenwyr ieuainc ag y mae dull yr hen bobl o ddadleu yn myned yn ddyeithr iddynt, osod gerbron amryw bigion o'r llyfryn hwn. Ni roddwn, modd bynag, ond un engraifft. Cyfiawnder cyfrifol ydyw pwnc yr ymddiddan sydd dan sylw, lle y mae Thomas yn dywedyd—