"Beth a feddyliet ti am y bobl yma pan ddelont i farw? Mae arnaf ofn y bydd llawer o honynt heb y wisg briodas." "Felly finau," meddai Dafydd.
"Beth! ofn y bydd y dynion sydd yn credu yn Nghrist a ffydd Abraham, ac yn rhodio yn llwybrau y ffydd hono hyd farw, heb y wisg briodas yn y diwedd!! Ond y mae hwn, fel pob peth sydd yn perthyn i Galfiniaeth, yn ddisail. A dywedyd y gwir, y mae ef yn beth hollol afresymol clywed Calfin yn dyweyd fod arno ef ofn bod neb yn golledig, oblegid os dywed fod arno ofn i'r etholedig fod yn golledig, dyna fe yn gwadu sicrwydd yr hyn a eilw yn gyfamod tragywyddol. Ac os dywed fod arno ofn i'r gwrthodedig fod yn golledig, dyna fe yn dangos ei fod yn anfoddlon i'r hyn a eilw yn arfaeth foreu. Ac yn wir, ni welwn i yn fy myw fod gan Galfin ddim i'w ofni ond ei athrawiaeth ei hun, neu yn hytrach ddim i'w ofni yn fwy na hono; ond y mae ganddo bob peth i'w ofni tra byddo yn credu hono. Y gwir ydyw hyn, fod yn rhaid i bob un, tra byddo yn credu Calfiniaeth, syrthio naill ai i ryfyg ai i anobaith. Os meddylia ei fod ef wedi ei ethol, RHYFYG yw hyny, canys nis gall ei wybod; tudalen 18. Os meddylia nad ydyw, fe syrth i anobaith; a deg cant i un na ladd efe ei hun. Ac nid wyf yn ameu nad oes llawer yn Nghymru yn dystion byw eu bod yn adnabod rhai a wnaeth hyn. A bydded hyn yn hysbys i'r holl fyd, y buaswn i yn uffern cyn bod yn ddeunaw oed, oni buasai i mi gael cymhorth gan Dduw i gredu mai celwydd oedd Calfiniaeth." Mewn ffordd fel yna y mae y Collier a'r Miner yn cael eu trin gan Mr. Jones drwy gorff y llyfryn.
Yn y flwyddyn 1819 cyhoeddwyd Prynedigaeth neillduol, neu Grist yn rhoi ei hun dros yr Eglwys, lle y cadarnheir yr Athrawiaeth, ac y gwrthbrofir yr holl resymau a arferir yn ei herbyn mewn pregeth a gyhoeddodd Mr. Samuel Davies ar Brynedigaeth Gyffredinol." Enw Mr. Evan Evans (Ieuan Glangeirionydd) sydd wrth y llyfr hwn. Ond y mae cryn amheuaeth ar gwestiwn ei awdwraeth. Y dybiaeth yw iddo gael ei gyhoeddi gan y Parchn. John Elias, o Fôn, a John Parry, Caer, ac na wnaeth Ieuan Glangeirionydd ddim ond ei barotoi i'r wasg a'i gyhoeddi fel llyfr o'i eiddo ei hun. Cymerai Mr. Elias arno fod Arminiaeth is-law ei sylw ef, ac eto ergydiai ati byth a hefyd o'r pwlpud. Ac am Mr. Parry, nid oedd ef wedi anghofio y driniaeth a gafodd yn sylwadau Mr. Games ar ei "Ddrychau Cywir," ac ni fuasai yn hoffi cael triniaeth gyffelyb drachefn. Ac felly dewisodd y ddau ddyfod allan i ymosod ar Bregeth Mr. Davies, yn nghysgod y bardd a'r llenor ieuanc. Yn fuan wedi i Ieuan Glangeirionydd adael Caer, a hyny yn y flwyddyn 1820, gofynodd Mrs. Bartley, Bydrochwyn, iddo, "Wel, beth yw eich barn yn awr ar bwnc yr hen ddadl?" Atebodd, yn ei ddull rhydd ac agored, "Wel, yn wir, mi gefais fy