Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

COSTIODD casglu yn nghyd ddefnyddiau y Gyfrol fechan hon i mi flynyddoedd o lafur, ac nid gorchwyl unddydd oedd dethol ohonynt yr hyn a osodwn yma ar fwrdd y Darllenydd. Fel y gwelir, trem ar Hanes Wesleyaeth Gymreig a gymerais, ac felly ni cheir yn y gwaith hwn Hanes Sefydliad yr Eglwysi nac ychwaith Hanes Blaenoriaid a Swyddogion amlwg fu yn ein plith yn ystod y Ganrif. Cynwysai fy nghynllun ar y cyntaf Bennod ar "Hanes Sefydliad yr Eglwysi," a Phennod hefyd ar "Hanes ein Hen Flaenoriaid." Yn y Bennod ar "Lênyddiaeth Wesleyaidd Gymreig," rhoddwyd i mewn ar y cyntaf Hanes ein Llyfrfa; ond gorfu i ni adael yr holl bethau hyn allan, am y buasent yn chwyddo y Gyfrol i bris anfarchnadol. Bwriadaf fyned yn mlaen i gasglu "Hanes Wesleyaeth Gymreig" os caf fywyd a hamdden, gan hyderu y gallaf trwy hyny, wasanaethu achos yr Arglwydd a bod o fendith i genedlaethau o Wesleyaid a enir wedi i mi ymadael dros y gorwel i'r anweledig mawr.

Dymunaf gydnabod yn ddiolchgar y cynorthwy ewyllysgar a gefais i barotoi y gwaith hwn i'r wasg. Cefais ganiatad Pwyllgor y Llyfrfa Wesleyaidd Gymreig i wneyd defnydd o unrhyw lyfr sydd yn feddiant i'r Enwad. Dymunaf gyflwyno i'r Pwyllgor fy niolchgarwch diffuant. Cynorthwyodd Mr. E. Rees, Machynlleth fi tu hwnt i'm cyfeillion penaf. Cymerodd arno ei hun lafur a thrafferth fawr i'm cyflenwi â gwybodaeth o lawer o fanylion a fu i mi o wasanaeth a chynorthwy anmhrisiadwy. Ac at hyn, bu mor garedig a darllen y copi cyn ei anfon i'r wasg bron yn gyfan, ac awgrymodd amryw welliantau, y rhai i fesur pell a gariwyd allan. Yn nesaf diolchaf o galon i'r Parch. W. H. Evans, am ei barodrwydd yn rhoddi bob cynorthwy a allasai, a chefais doraeth o wybodaeth am yr achos yn ei wahanol agweddau ganddo. Yr wyf o dan rwymedigaeth hefyd i'r Parch. Owen Williams, R. Morgan (A). David Jones (Druisyn), Edward Humphreys, John Hughes (Glan- ystwyth), J. Cadvan Davies, R. Lloyd Jones, J. P. Roberts, D. O. Jones, R. Morgan (B), Philip Williams, Henry