Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Parry, Robert Roberts (Robertus), John Humphreys, W. Caenog Jones, &c. Cefais gynorthwy neillduol gan Mr. Thomas Charles, Brvmbo, mewn llawer dull a modd, a hyny gyd â pharodrwydd a sirioldeb mawr. Diolchaf hefyd. i'r Henadur Peter Jones, Helygain: William Williams, Treffynnon; John Marsden, Treffynnon; R. Delta Davies, Tv Ddewi; T. W. Griffiths, Llandudno; Mr. a Mrs. Williams, Alexandra Road, Manchester, am eu cymhorth.

Gwn caiff llawer flas ar ddarllen y Gyfrol, ac eraill ddifyrwch i'w beirniadu. Gosodaf bris uchel ar feirniadaeth deg, am y gall fod o gynorthwy i mi i berffeithio y gwaith ar gyfer argraffiad arall. Ond ni roddaf unrhyw bris ar feirniadaeth dynion na lafuriasant mewn hanesiaeth, ac na chynyrchasant ddim mewn unrhyw gylch llenyddol o'r fath deilyngdod a rydd iddynt hawl i feirniadu.

Digwyddodd rhai gwallau argraffyddol yn y gwaith, megys cenawdwri yn lle cenadwri yn nheitl Pen. II.; tudalen 39, ofed llinell yn Nghymru yn lle yn Nghonway. Yn y paragraph cyntaf, tudalen 164, darllener fel hyn: "Cyfododd rhif yr aelodau yn y Dalaeth Ddeheuol o 4427 i 5513, cynydd o 1086. Yn y Dalaeth Ogleddol codasant o 12,787 i 15,171, cynydd o 2324." Tudalen 182, yn lle, Y wawr," &c., darllener, 1900 "Y wawr." Gwnaethum bob ymchwiliad er sicrhau cywirdeb, ond gan fy mod y cyntaf i gyhoeddi Hanes Wesleyaeth Gymreig yn iaith fy Ngwlad. mewn trefn amseryddol, yr oedd y tir yn anhawdd ei deithio a'r llwybrau weithiau yn dra dyrus. Gellir disgwyl i'r sawl a deuant ar fy ol i efrydu yn y maes hwn fanteisio ar fy llafur i, a gwneyd eu gwaith yn berffeithiach. Nid casglu pentwr o ffeithiau ac enwau, a'u bwrw at eu gilydd heb na threfn na dosbarth fu fy ngorchwyl, ond yn hytrach cofnodi ffeithiau mewn trefn hanesyddol trwy roddi iddynt eu lle priodol, a dangos dylanwad cyd-berthynol yr holl amgylchiadau â'u gilydd er dadblygu Wesleyaeth Gymreig i'r hyn ydyw heddyw. Cydnabyddaf yr Arglwydd am gymorth ei ras a'i amddiffyniad droswyf yn nghyflawniad y gwaith hwn, ac erfyniaf ei fendith arno.

T. JONES-HUMPHREYS.
BODAWEN,
WYDDGRUG.
Mehefin 30ain, 1900.