Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝕸𝖊𝖙𝖍𝖔𝖉𝖎𝖘𝖙𝖎𝖆𝖊𝖙𝖍 𝖂𝖊𝖘𝖑𝖊𝖞𝖆𝖎𝖉𝖉
𝕲𝖞𝖒𝖗𝖊𝖎𝖌
.




PENNOD I.

Sefyllfa Cymru ar ddechreu y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg.

AR derfyn y ddeunawfed ganrif a dechreu y bedwaredd. a'r bymtheg, yr oedd sefyllfa wladol, gymdeithasol, a chrefyddol y Dywysogaeth yn un o ddeffröad tra phwysig ar gyfrif amryw ystyriaethau. Os cymerwn olwg ar ei sefyllfa wladol, canfyddwn ei bod yn cael ei chynhyrfu gan ryfeloedd y milwr aflonydd ac uchel-geisiol, Napoleon Boneparte I. Yn wir, yr oedd cad-gyrchoedd y rhyfelwr galluog hwnw, yn cynhyrfu ac yn cyffroi trigolion holl wledydd Cyfandir Ewrop, yn ogystal a gwledydd rhanbarthau eraill y byd. Wrth ddarllen hanes ei ryfelgyrch anffodus yn yr Aipht, a'i ddychweliad rhodresgar i Ffrainc, ofnai rhai, gobeithiai y naill, a synai y lleill yn ngwyneb y gwyhydri a gyflawnai, ac ystyriai pawb ef yn ddyn anghyffredin. Rhyfeddai dynion gwybodus a milwyr profedig at ei wroldeb dihafal yn arwain ei fyddinoedd Iluosog a dewr, megys ar hyd ffordd newydd a disathr ar draws uchel-diroedd yr Alpau i ymosod ar Awstria; a darllenid gyd âg awch hanes llwyddiant ei ryfelgyrch yn erbyn byddinoedd cryfion y deyrnas hono, pan ddisgynodd arnynt ar wastadeddau Itali, gan eu chwalu, eu dinystrio, a'u llwyr orchfygu. Arswydai y Pab a'r Sultan rhagddo, ac ofnent rhag iddo ddyfod a'u dinystrio byth bythoedd. Yn ngwyneb ei lwyddiant, rhoddodd y Pab ffordd i'w ddylanwad, ac aeth i Paris ar yr zil o Ragfyr, 1804, i'w goroni yn Ymherawdwr. Ar y 26ain o Mai, 1805, coron-