Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyd ef yn Frenhin Itali yn Milan, gan Archesgob y ddinas Y pryd hwn yr oedd mewn rhyfel â'r wlad hon, ac yn nghanol ei lwyddiant ar y Cyfandir, cyrhaeddodd y newydd ef, fod Llynges Ffrainc ac Yspaen wedi eu llwyr ddinystrio yn mrwydr fyth-gofiadwy Trafalgar, Hydref 2il, 1805. O hyny hyd i'r flwyddyn 1815, yr oedd Ffrainc fel mynydd. tanllyd gwyllt yn nghanol gwledydd Cred, a'r cenhedloedd mawrion oll fel dyfroedd berwedig o'i chylch, yn fwrlwm a therfysg i gyd." Yn wladol, yr oedd yn amser o gyni, o derfysg, o drallodion, ac o gymylau a thywyllwch, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd.

Nid oedd nemawr gwell mewn ystyr gymdeithasol. Dylanwadai nerth hen arferion ar fywyd ac ymarweddiad y genedl. Ni chedwid y Sabboth ond mewn rhan, oblegid cam-ddefnyddid ef i ddilyn y mabol-gampau mewn llawer o ardaloedd, er y cyfyngid hwy mewn aml i gymydogaeth i leoedd anghysbell ac anghyfanedd. Ac at hyn yr oedd dylanwad ofergoelion yn fawr-yn wir, yn fwy na dylanwad yr Efengyl mewn llawer o gymydogaethau. Ar yr un pryd mae yn deilwng o sylw, fod ymdrechion egnïol yn cael eu gwneyd, ac i fesur llwyddianus, gan nifer o ddynion da i wella moes y genedl, trwy bregethu iddynt wirioneddau yr Efengyl, a'u hyfforddi yn egwyddorion cyfrifoldeb yn ngoleuni barn a byd tragwyddol. Yr oedd gwaith mawr, eisioes, wedi ei gyflawni; ond ychydig oedd nifer y gweithwyr ar gyfer y cynhauaf.

Wrth gymeryd golwg ar sefyllfa grefyddol ein cenedl ar ddechreu y 1800, canfyddwn fod y wawr wedi tori, goleuni y dydd yn dechreu tywynu, a dynion Duw ar y maes yn gweithio, eto, ar y cyfan, dirywiol ag isel oedd sefyllfa crefydd yn y tir. Gwir, fod yma Eglwys Wladol, a bugeiliaid ysbrydol (mewn enw) i ofalu am bob plwyf. Ond nid oeddynt yn gwneyd eu gwaith. Gyda golwg ar sefyllfa crefydd yn yr Eglwys Wladol yn y cyfnod hwn, nis gallwn wneyd yn well na difynu a ganlyn o anerchiad Esgob Llandaf, yr hwn a draddodwyd ganddo yn Nghyfarfod yr Eglwys Gymreig, mewn cysylltiad a'r Cyngrair Eglwysig, dydd Mercher, Hydref 13eg, 1899. "Dywedai ei Arglwyddiaeth, y dymunai ef, fel Esgob Esgobaeth Gymreig a gynwysa boblogaeth fwy na phoblogaeth haner y