Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywysogaeth, angen y rhai oedd o'r pwys mwyaf, a chynydd y rhai, yn sicr, nid oedd yn llai nodedig, ddywedyd ychydig eiriau ar Yr Eglwys yn Nghymru yn y ganrif hon; ei chynydd a'i hangenion." Ni thybiai fod yn ormodiaeth i ddywedyd, fod yr Eglwys yn Nghymru yn nechreu y ganrif hon yn eglur ddwyn arni arwyddion o Eglwys yn dirywio ac yn marw. Yr oedd y rhan fwyaf o'i hadeiladau cysegredig y pryd hwnw, i fesur mwy neu lai, yn adfeilion. Yr oedd safon bywyd moesol yn mhlith ei chlerigwyr yn isel. Peth cyffredin i'r clerigwyr oedd preswylio tu allan i'w bywoliaethau, ac o ganlyniad yr oedd ymweliadau bugeiliol bron yn anmhosibl. Cyfyngid cyfleusterau i addoliad cyhoeddus fel rheol i unwaith yn yr wythnos. Anfynych y gweinyddid y Cymun Sanctaidd yn y plwyfydd gwledig fwy na phedair gwaith yn y flwyddyn. Y clerigwyr, am eu bod eu hunain yn anghyfarwydd âg athrawiaethau gwahaniaethol yr Eglwys, oeddynt analluog i gyfranu gwybodaeth o honynt i'r bobl. Ychydig o barch, trefn, a gweddeidd-dra a nodweddai yr addoliad cyhoeddus. Dan yr amgylchiadau hyn, nid oedd yn beth i'w ryfeddu ato, fod y cynulleidfaoedd yn lleihau yn gyflym trwy ymadawiadau at y naill neu y llall o'r Enwadau Anghydymffurfiol; i syniadau uwch y rhai o gyfrifoldeb, a gofal mwy am ddylanwad ysprydol eu praidd y gellir priodoli yn benaf, y ffaith i lusern crefydd gael ei chadw i losgi. Yr achosion yn ol ei farn ef, y rhai a effeithiasant i ddwyn. oddiamgylch y sefyllfa ddifrifol hon ar bethau, oeddynt, -Yn gyntaf, Fod llywodraeth yr Eglwys y pryd hwnw wedi ei hymddiried yn nwylaw estroniaid; ac nid anfynych, i Esgobion nad oeddynt yn byw yn eu Hesgobaethau— anwybodus o iaith y mwyafrif o'r bobl, heb feddu ond gwybodaeth anmherffaith o'u harferion a'u cymeriad, ac yn fynych yn byw yn rhy bell o'i bywoliaethau, i wasgu disgybliaeth, i gynal trefn, ac i atal afreoleidd-dra. Yn ail, Angen am ysgol leol i gyfranu addysg uwchraddol ac hyfforddiant neillduol i glerigwyr Cymru. Dyddiau tywyll i'r Eglwys oedd y rhai hyn; ond, diolch i Dduw, yr oedd dyddiau gwell gerllaw." Yn ol barn ddatganedig yr Esgob Lewis, yr oedd clerigwyr Cymru fel corph ar ddechreu y ganrif hon yn isel eu moes, ac yn dra an-