Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wybodus; ond, eto, yr oedd eithriadau a diolch i Dduw am danynt. Yr oedd yn Nghymru ar ddechreu 1800 nifer weddol. luosog o Annibynwyr a Bedyddwyr. Gellir dyddio cychwyniant Ymneillduaeth mor bell yn ol a'r flwyddyn 1639, ac felly, yr oedd ar y tir dros gant a haner o flynyddoedd cyn cychwyniad Methodistiaeth Wesleyaidd Cymreig, a dioddefodd llawer o'r hen Ymneillduwyr gyni a chaledu, yn nghyd ag erlidigaethau creulawn, o herwydd eu hegwyddorion. Perthynai i'r "Tadau Ymneillduol" ddynion o dalentau disglaer, ac o ddysgeidiaeth uwchraddol, yn Annibynwyr, Bedyddwyr, a Chrynwyr. Ond, yn gynar yn eu hanes, torodd allan yn eu plith anghydwelediad ar athrawiaethau crefydd. Coleddai y naill olygiadau Calfinaidd, a'r lleill olygiadau Arminaidd, a dadleuai pob plaid yn selog dros ei syniadau. Ond dylid cofio mai nid Arminiaeth efengylaidd James Arminius a John Wesley oedd Arminiaeth y dyddiau hyny, ond, yn hytrach, rhyw gymysgedd o Arminiaeth a Pelagiaeth. Gwadai llawer o Arminiaid y cyfnod hwn y "Llygredd Gwreiddiol," a choleddent syniadau llac am yr Iawn, ac elai rhai mor bell a gwadu fod marwolaeth Crist yn lawn o gwbl. Canlyniad hyn oedd ymraniad, a therfynodd nifer o honynt eu gyrfa athrawiaethol yn nhiroedd oerion, sychion, a diffrwyth Undodiaeth a Ariaeth. Ymddengys mai yr Annibynwyr ydyw yr Enwad Ymneillduol hynaf yn y Dywysogaeth. Yn wir, Annibynwyr oedd holl Ymneillduwyr Cymru hyd y flwyddyn 1649, Y pryd hwnw darfu i Meistri John Myles a Thomas Proud gasglu a chorphori Eglwys o Fedyddwyr yn Ilston, ger Abertawe. Ymledodd yr Enwad hwn yn gyflym trwy ranau o Fynwy a chwe' Sir y Deheubarth, ac mewn canlyniad achoswyd llawer o gyffro, a chymerodd dadleuon brwd le ar Fedydd mewn amryw ardaloedd, a theimlai y naill blaid mor sicr a'r llall fod y gwirionedd o'i hochr hi.

Y cyntaf i bregethu Arminiaeth yn Nghymru oedd Mr. Jenkin Jones, o'r Goetre Isaf, rhwng Llanbedr a Llandysul, yn Sir Aberteifi, ac efe a sefydlodd yr Eglwys Arminaidd gyntaf yn Llwyn-Rhyd-Owen, yn y flwyddyn 1726, a bu fyw i weled chwech o Eglwysi wedi ei sefydlu yn y cym-