Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydogaethau cylchynol. Glynodd tair o'r Eglwysi a sefydlwyd ganddo yn y credo Arminaidd; ond methodd y tair arall a gwrthsefyll dylanwad y Diwygiad Methodistaidd. Cymreig, ac yn y diwedd cymerodd y Methodistiaid feddiant o honynt. Yn Arminiaeth Cymru y dyddiau hyny, yr oedd hadau cyfeiliornad wedi eu hau, y rhai, erbyn dechreu 1800, oeddynt wedi tyfu i'w cyflawn faint. Aeth yr hen Arminiaid yn Undodiaid. Ond ychydig iawn o lwyddiant fu arnynt, ac y maent bron oll, erbyn heddyw, wedi eu cau wrthynt eu hunain rhwng yr Afonydd Teifi, Aeron, a Cherdin, yn Sir Aberteifi. Ni fu rhif y Crynwyr erioed yn lluosog yn y Dywysogaeth, ac nis gwyddom ond am ychydig o gynulleidfaoedd o honynt yn aros hyd heddyw.

Gellir dyddio dechreuad y Methodistiaid Calfinaidd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1735, ond ni sefydlwyd y Cyfundeb hyd y flwyddyn 1743. Y dyn a ddefnyddiodd yr Arglwydd i fod yn offeryn cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd yn Nghymru oedd y Parch. Griffith Jones, o Landdowror, a hyny trwy fod yn foddion yn llaw yr Arglwydd i argyhoeddi dau o'r tri dynion enwog a ddefnyddiwyd fel offerynau i gyffroi y wlad, ac i ddwyn oddiamgylch y Diwygiad, sef, Howell Davies a Daniel Rowlands, y rhai, yn nghyd â Howell Harris, yr hwn oedd wedi ei argyhoeddi o'r blaen, sef, ar Sul y Pasg, 1735, a gyffroiasant Gymru drwyddi, ac a greuasant gyfnod newydd yn ei hanes.

Efallai na byddai gair yma yn anmhriodol am berthynas Mr. Howell Harris a'r Methodistiaid Wesleyaidd. Yr oedd ef, o gychwyniad ei yrfa fel pregethwr, wedi clywed llawer o sôn am Mr. John Wesley, ac awyddai yn fawr am ei weled, a chael ymddiddan âg ef. Cyfarfyddodd ag ef yn Bristol, Mehefin 18fed, 1739, ac ar ol ei glywed yn pregethu y noson o'r blaen ar y geiriau hyn-" Trowch eich wynebau ataf fi holl gyrau y ddaear, fel eich achuber," dywedodd wrtho, "Mor gynted ag y clywais chwi yn pregethu, myfi a welais o ba yspryd yr ydych, a chyn i chwi haner ddarfod, yr oeddwn wedi fy llenwi â llawenydd. a chariad, fel y cefais lawer o drafferth i gerdded adref." Ymddengys fod Mr. Harris a Mr. Wesley wedi ymuno â'u gilydd y pryd hwn i bregethu yr Efengyl yn nghyd.

Hydref y 9fed, 1741, yr oedd Mr. Howell Harris yn