Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bristol, a chan ei fod ef yn dymuno yn fawr gael gweled. Mr. Wesley, efe a anfonodd ddyn i Kingswood i ddymuno arno ddyfod ato-ei fod ef yn myned i Gymru am dri o'r gloch boreu dranoeth. Daeth Mr. Wesley ato, a buont yn nghymdeithas a'u gilydd hyd ddau o'r gloch y bore, pryd yr ymadawasant mewn llawer iawn o gariad, a Mr. Harris a benderfynodd aros yn Bristol hyd y dydd Llun canlynol.

Hydref y 10fed, aeth Mr. Harris at Mr. Wesley i'r ystafell newydd, lle y cyfaddefodd ei fod yn gwadu yn hollol yr athrawiaeth o wrthodedigaeth. Ac mewn perthynas i'r athrawiaeth o barhad mewn gras, 1. Yr oedd o'r farn na ddylid crybwyll hyny wrth yr anghyfiawn, nac wrth neb rhydd a difater, llawer llai un yn byw mewn. pechod; ond yn unig wrth y difrifol a'r gofidus, o herwydd pechod. 2. Yr oedd ei hun yn credu fod yn bosibl i un gwympo ymaith wedi iddo gael ei oleuo a pheth gwybodaeth o Dduw, a "phrofi y rhôdd nefol, a'i wneyd yn gyfranog o'r Yspryd Glân;" ac yr oedd yn dymuno i bawb allu cyduno, a chadw yn agos at y Gair Sanctaidd. 3. Nid oedd efe yn cyfrif un dyn wedi ei gyfiawnhau mor bell fel nad oedd yn agored i syrthio, hyd nes y byddai ganddo hollol gasineb at bob pechod, a newyn a syched beunyddiol ar ol pob cyfiawnder.

Yr oedd Mr. Howell Harris yn aelod o Gyfundeb y Methodistiaid Wesleyaidd, fel y prawf y ffaith o'i bresenoldeb yn y Gynhadledd, a'i waith yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau. Yr oedd yn bresenol yn y Gynhadledd Wesleyaidd a gynhaliwyd yn Llundain, Mehefin 16eg, 1747, sef, yr amser yr oedd yr athrawiaeth yn cael ei hystyried yn fwy manwl, a'i darnodi yn fwy benodol, fel y gellir gweled yn nhofnodau y Gynhadledd hono. Ac onid yw hyn yn brawf mai yr Athrawiaeth Wesleyaidd oedd ef yn ei chredu a'i phregethu ar hyd Cymru?

Cychwynodd Arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd Cymreig yn gyfamserol; y naill yn Trefecca, a'r llall yn Llangeitho, a hyny heb wybod dim am eu gilydd; ond, o'r ddau, efallai mai Howell Harris oedd y cyntaf o amser. Llithrodd i bregethu megys yn ddiarwybod iddo ei hun, ac er iddo fod am ychydig yn Mhrif-Ysgol Rhydychen, gwrthododd yr Esgob ei urddio, oherwydd ei