Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

WESLEYAIDD GYMRIEG. 19 afreoleidd-dra, yn ol ei dyb ef. Arferai a phregethu ar feddfaen ei dad yn Mynwent Talgarth, ar ol y gwasanaeth ar fore Sabboth. Dyrchafai ei lef yn erbyn annuwioldeb yr oes, aeth sôn am dano trwy yr holl wlad, ac ymgynullai canoedd i wrandaw arno. Dyma yr adeg yr aeth Mr. William Williams, Pantycelyn, i wrando arno, yr hwn, ar y pryd, oedd mewn ysgol yn Cwm-llwyd, dan ofal Mr. Vavassor Griffiths, Gweinidog yr Eglwys Annibynol yn Maes yr Onen. Argyhoeddwyd ef yn ddwys o'i bechod, a dychwelwyd ef at yr Arglwydd dan weinidogaeth Howell Harris, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun yn y penill canlynol-

"Dyma'r bore byth mi gofiaf, clywais inau lais o'r nef,
Daliwyd fi gan wys oddi uchod, wrth ei sŵn dychrynllyd ef;
Wedi teithio ol a gwrthol, anial dyrus, dileshad,
Tra bo anadl yn fy ffroenau, mi a'i galwaf ef yn Dad."

Yr oedd y Parch. Daniel Rowlands mewn urddau eglwysig, ond, er hyny, heb brofi cyfnewidiad cyflwr. Dychwelwyd ef dan bregeth y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn Eglwys Llanddewibrefi, yn y flwyddyn 1735, ac o hyny allan yr oedd geiriau Duw yn llosgi yn ei esgyrn, a phregethai gyd â nerth ac arddeliad mawr. Trwy y tri wyr hyn, Harris, Rowlands, a Davies, y cychwynodd y Diwygiad Methodistaidd yn Nghymru, a chynorthwywyd hwy gan William Williams, Pantycelyn, a Peter Williams, ond erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd y tadau anfarwol hyn wedi eu cymeryd oddi wrth eu llafur at eu gwobr, eto, er colli y gweithwyr, aeth y gwaith yn ei flaen.

Ar derfyn y ddeunawfed ganrif, nid oedd ansawdd ysprydol crefydd yn ein gwlad yr hyn allesid ddisgwyl yn mhlith y naill na'r llall o'r Enwadau Anghydymffurfiol. Wedi cyfeirio at addysg, cymeriad moesol prydferth, ac amgylchiadau clyd Arweinwyr yr Annibynwyr, á Dr. John Thomas yn ei flaen, yn Hanes yr Annibynwyr, i draethu am eu sefyllfa foesol tu âg adeg toriad allan y Diwygiad Methodistaidd yn y geirau a ganlyn-"Ond, wedi y cwbl, nid oedd eu nerth ysprydol i gario dylanwad ar y genedl, yr hyn a allesid ddisgwyl, yn ol eu nifer, eu gwybodaeth, a'u cymeriad, a'u safle gymdeithasol. Yr oedd oerder a