Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffurfioldeb yn ei holl wasanaeth, at yr hyn yr ychwanegid yn fawr trwy eu hirferthder. Ymdrinient a phob gwir- ionedd yn bynciol a dadleugar, heb ei ddwyn adref gyd â difrifwch at eu gwrandawyr. Cadwent ddrysau eu Capeli yn agored bob Sabboth, fel y bugail yn cadw drws y gorlan yn agored, fel y gallai y ddafad golledig ddychwelyd, os mynai, ond ni anfonid y bugail allan i'r anialwch i chwilio am dani. Ni elent allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i gymell yr esgeuluswyr i mewn, fel y llenwid y tŷ. Gwyddom fod eithriadau anrhydeddus, ond yr ydym yn cymeryd golwg ar bethau yn gyffredinol. Erbyn yr ychwanegir at hyn, yr ymadawiad oddiwrth y ffydd oedd mewn nifer o Eglwysi, nid yw rhyfedd o gwbl fod nerth yr Eglwysi wedi gwanychu, ac nad oedd ynddynt y gallu hwnw y rhaid ei gael i ddarostwng gwlad i'r Efengyl. Nid oeddynt eto wedi cyffwrdd ond ag ymvlon cymdeithas. Yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac anuwioldeb. Nid oedd y Sabboth ond dydd i chwareu ac ymddifyru, i ddilyn oferedd ac anghymedroldeb. Cynhelid ffeiriau gwagedd, a gwyl mabsantau, a'r Sabboth oedd dydd mawr yr wyl. Ni clywid odid un amser o bwlpud yr Eglwys blwyfol lais yn erbyn y pethau hyn, ac yn rhy aml cymerai y clerigwyr ran flaenllaw ynddynt; fel yr oedd yr un fath bobl ac offeiriaid. Cadwai yr hen Ymneillduwyr yn mhell oddi wrth y pethau hyn; ac yr oedd miloedd o honynt yn poeni eu heneidiau cyfiawn o'u herwydd, ond heb feddu y gwroldeb i fyned allan i dystiolaethu i'w herbyn gan fynegu i'r bobl eu camwedd." Er fod yr uchod yn ddar- luniad o gyflwr Cymru ar gychwyniad Methodistiaid, eto, cyffelyb oedd pethau ar derfyn y ddeunawfed ganrif, fel y cawn weled ragllaw.

Cyfetyb tystiolaethau haneswyr Methodistiaeth a Dr. J. Thomas ar y mater hwn. Yr oedd y ddeunawfed ganrif yn tynu at y terfyn pan ymunodd y Parch. Thomas Charles, o'r Bala a'r Methodistiaid, sef, yn y flwyddyn 1785. Am y cyfnod hwn, dywedai y Parch. Thomas Jones, 0 Ddinbych-" Yr oedd Methodistiaeth (Galfinaidd) yn isel iawn ei gwedd hyd ddyddiau Mr. Charles. Y fath oedd agwedd y Gogledd yn enwedig. Ychydig o addoldai oedd