Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn mhob sir. Nid oedd nifer y proffeswyr ond ychydig, a'u sefyllfa gan amlaf yn isel. Nid oedd rhif luosocaf o'r cynghorwyr ond bychain eu doniau a'u gwybodaeth, heb neb yn eu plith yn gweinyddu na Bedydd na Swper yr Arglwydd." Yr oedd y gwyr urddedig a'r diaconiaid, Rowlands, Harris, a H. Davies, y ddau Williams, ac eraill, yn nghyd âg amryw bregethwyr heb urddau eglwysig, wedi cael eu tueddu gan yr Arglwydd, ac wedi anog eu gilydd, i fod yn bregethwyr teithiol i'r rhan hon (Gwynedd) o Gymru, lle yr oedd anwybodaeth, anystyriaeth, a llawer math o halogedigaeth, wedi ymdaenu gyd å grym mawr; yr Eglwyswyr dan ddirywiaeth o'r mwyaf, o ran egwyddor- ion ac arferion; y boneddigion yn ddiymdrech yn mhlaid crefydd a moesau da, ac yn rhoi esiamplau o lawer math o ddrygioni; y werin yn soddedig mewn tywyllwch a choel grelydd, yn nghyd ag amledd o ddrwg-arferion; a'r gwedd- illion o'r Ymneillduwyr hwythau wedi cysgu mewn ffurfioldeb yn gyffredinol, a chryn nifer o honynt mewn egwyddorion ac arferion llygredig gyd â hyny. Yn fyr, yr oedd cyflwr ac agwedd ein gwlad yn dra gresynus o ran diffyg o wybodaeth a naws grefyddol; y Beibl yn anaml i'w gael (er ymdrechiadau da y Gymdeithas at daenu gwy- bodaeth Gristionogol); ac mewn llawer o ardaloedd ein gwlad yr oedd yn rhy anhawdd cael deg o bobl a fedrent ei ddarllen mewn unrhyw iaith.' Yr oedd ychydig gyd a deugain mlynedd wedi myned heibio, er pan yr anturiasai Howell Harris i'r Gogledd; ac er grymused yr effeithiau a fu ar ei lafur ef yn ystod y blynyddoedd hyny, prin y can- fyddid un newidiad eto yn ngwedd gyffredinol y wlad. Yr oedd cryn niferi o fân Eglwysi bychain yn dechreu britho y siroedd, y rhai a gynhelid gan amlaf, mewn tai anedd, neu ryw adeiladau gwaelion; yr oedd ambell Gapel, hefyd, wedi ei godi; eto, yn ngwedd gyffredinol y wlad, prin y canfyddid nemawr o wahaniaeth ar yr agwedd oedd arni pan gychwynodd y Diwygiad gyntaf, oddi eithr fod erlid- igaeth yn llai, a'r rhagfarn yn erbyn y blaid newydd yn dechreu lliniaru." "Methodistiaeth Cymru," Cyf. I., tu. 330.

Yn mhen amser wedi cychwyniad y Diwygiad, sef, yn y flwyddyn 1750, cyfododd anghydwelediad difrifol iawn