Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwng Howell Harris a Daniel Rowlands ar bwnc o athrawiaeth a barodd ymraniad yn y corph. Ymneillduodd Harris i Drefecca, lle y sefydlodd gartref i'w ganlynwyr. Nid yw hanes yr ymraniad hwn wedi ei gyhoeddi eto yn Ilawn, ac efallai mai gwell iddo fyned i dir angof. Ond y mae genym le cryf i gasglu fod Howell Harris, y pryd hwn, ac ar ol y flwyddyn 1763, yn tueddu at gofleidio yr Athrawiaeth Arminaidd, fel ei pregethid gan y Parch. John Wesley. Ond, fodd bynag, cyfanwyd yr ymrwygiad yn y flwyddyn 1763, a hyny yn benaf trwy gyfrwng y Diwygiad mawr a gymerodd le y flwyddyn flaenorol, ond parhaodd yr archollion yn agored dymor ar ol hyny.

Y wedd ar athrawiaethau crefydd a bregethid yn Nghymru ar derfyn y ddeunawfed ganrif oedd Calfiniaeth, ie, uchel-Galfiniaeth. Hon oedd yr athrawiaeth a bregethid o bwlpudau yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid, bron yn ddi-eithriad. Dyma dystiolaeth y Parch. John Owen, Wyddgrug-"Nis gellir ameu nad oedd holl sylfaenwyr Methodistiaeth (Galfinaidd) yn galfin- iaid heb un eithriad. Byddwn o fewn terfynau gwirionedd os dywedwn, fod ffrwd addysgiad (crefyddol) yn rhedeg mewn rhigol Calfinaidd. Yr oedd Charles o'r Bala, yr hwn a ysgrifenodd yr Holwyddorydd a elwir "Yr Hyfforddydd Cristionogol" a'r "Geiriadur Ysgrythyrol," yn ddiameu yn Galfinaidd yn ei ddysgcidiaeth." Yn mhlith y llyfrau a gymellid i'w darllen y pryd hwnw, yr oedd gwaith Eliseus Cole ar "Ben Arglwyddiaeth Duw," yr hwn a gynwysai uchel-Galfiniaeth. A'r adeg hono yr oedd hyd yn nod yr athrawiaeth erchyll ac anysgrythyrol o "Golledigaeth Babanod" yn cael ei chredu gan lawer yn Nghymru. Bellach, gadawn i'r ffeithiau hyn ddangos i'r darllenydd beth oedd cyflwr Cymru ar derfyn y ddeunawfed ganrif.