Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD II.

Cenhawdwri Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru.

FEL y dangoswyd yn y bennod o'r blaen, yr oedd yn Nghymru, ar derfyn y ddeunawfed ganrif, Eglwys Sefydledig, a nifer weddol luosog o Ymneillduwyr. Ond, yr oedd yr Eglwys Wladol wedi syrthio i ddifaterwch a dirywiad, ac yn huno yn dawel yn mhreichiau bydolrwydd. Ni wnai y clerigwyr y gwaith y telid iddynt am ei gyflawni, ac ni oddefent, hyd y medrent, i neb arall ei wneyd. Yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn Nghymru er ys dros gant a haner o flynyddoedd, ac yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd yma er ys dros tri ugain mlynedd, ac wedi gwneyd gwaith mawr a da. Yn ngwyneb y ffeithiau hyn, naturiol ydyw gofyn—Pa angen oedd am Enwad arall? Beth oedd yn galw am i'r Methodistiaid Wesleyaid ddyfod i Gymru ac ymsefydlu ynddi? Beth oedd y diffyg oedd ganddi hi i'w gyflenwi ? Ai onid oedd cyngor Duw yn cael ei bregethu gan yr Enwadau oedd ar y tir yn barod? Ai oni roddid amlygrwydd yn y weinidogaeth i'r bendithion mawrion, oeddynt yn rhagorfraint pob gwir gredadyn i'w mwynhau? Credwn mai yn yr atebiad i'r cwestiynau hyn y llwyddwn i gael allan beth oedd, ac yw Cenhadaeth Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru. Teimlwn fod yn bwysig i ni gadw golwg ar y gwahaniaeth rhwng cenhadaeth arbenig ein henwad yn Nghymru ar ei ddyfodiad yma, a'i ddylanwad ar Gymru wedi bod yn y tir am gàn mlynedd; oblegid mai llawer o'i dylanwad yn effaith dadblygiad Methodistiaeth Wesleyaidd. yn hytrach nag yn effaith ei chenhadaeth ar y cyntaf, Gwyddom iddi symbylu Ymneillduwyr Cymru, yn arbenig y Methodistiaid Calfinaidd i adeiladu Capeli, i fod yn gartref yr Eglwysi a gyfarfyddent mewn tai anedd ac