Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adeiladau di-nôd ac anghyfleus, a dysgodd yr holl enwadau o'r pwysigrwydd i'r holl Eglwysi fod dan ofal bugeiliol gweinidog ordeiniedig. Ar ddechreu y ganrif, nid oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd neb i weinyddu y Sacramentau ond ychydig o wŷr o urddau esgobol. Ac felly y parhaodd pethau yn eu plith hyd y flwyddyn 1811. Amseroedd blinion yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd oedd cyfnodau y dadleu yn nghylch ordeinio dynion wedi eu neillduo gan y corph i weinyddu y Sacramentau. Offeiriaid Eglwysig o urddau esgobol a gyflawnai y gwaith hwn, trwy dde a gogledd, am yr un mlynedd a'r bymtheg a thrigain cyntaf yn hanes y Methodistiaid Calfinaidd, a safent yn benderfynol yn erbyn unrhyw gynygiad a ddygid yn mlaen yn mhlaid cyfnewidiad yn y drefn. Yn wir, yr oedd hyd yn nod y Parch. T. Charles, o'r Bala, yn erbyn y cyfnewidiad ar y cyntaf. Cychwynwyd y cyffro mewn Cymdeithasfa yn Llangeitho, a'r Parch. Mr. Jones, Llangan, yn y gadair. Dirmygai y gŵr a ddygodd y cynygiad y mlaen, a gorchymynai ei droi allan, ac yr oedd wedi cyffroi yn fawr. Bu dadl y neillduad yn cyffroi y corph am rai blynyddoedd, yr offeiriaid bron yn ddieithriad yn erbyn y cyfnewidiad, a'r bobl a'r pregethwyr yn benderfynol drosto. Ac o'r diwedd llais y bobl a orfu, a hyny am mai eu llais hwy yn yr amgylchiad hwn oedd llais Duw. Wedi penderfynu yn Nghymdeithasfa Abertawe yn y flwyddyn 1810, fod y cyfnewidiad i gymeryd lle, bu ymrwygiad. Ymadawodd y rhan fwyaf o'r offeiriaid, rhai pregethwyr, ac amryw aelodau a'r corph, ond glynodd y Parch. Thomas Charles a Simon Lloyd, y Bala; William Lloyd, Caernarfon; John Williams, Pantycelyn; John Williams, Lledrod, a Howell Howells, Tre-hill, yn y corph trwy y cwbl, yr hyn a wna eu coffadwriaeth fyth yn anwyl a bendigedig. Gall gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd ddywedyd "A swm mawr y cefais y ddinas-fraint hwn," tra y gall ei frawd, Gweinidog y Methodistiaid Wesleyaidd ateb, "A minau a anwyd yn freiniol." Yr oedd y ddau weinidog Methodistiaeth Wesleyaidd Cymreig cyntaf erioed yn Nghymru yn ordeiniedig i weinyddu y Sacramentau pan ddechreuasant ar eu gwaith fel gweinidogion Cymreig.