Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/216

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Perthyna i Wesleyaeth Gymreig heddyw o aelodau yn cynwys rhai ar brawf ac yn rhestrau ieuenctid, 30,326. Ychwaneger y plant a'r gwrandawyr at y cyfryw, a rhifant o leiaf dros 60,000 o eneidiau. Os cymerer y Wesleyaid Seisnig yn Nghymru i'r cyfrif, rhifant rhwng y Cymry a'r Saeson oddeutu 108,731.

Dylanwadodd Wesleyaeth Gymreig hefyd trwy gyfrwng yr Ysgol Sul ar ganoedd o filoedd o'r genedl yn ogystal a thrwy y wasg. Yn ystod y Ganrif cyhoeddodd y Methodistiaid Wesleyaidd dros bedwar cant o lyfrau, a hyny heb gyfrif cyfrolau blynyddol y cyhoeddiadau misol a chwarterol. Nis gall cyhoeddiad y fath doraeth o lênyddiaeth, a hono bron oll yn grefyddol, amgen nag effeithio dylanwad mawr er goleuo a diwyllio meddyliau y darllenwyr.

Ond bu i Fethodistiaeth Wesleyaidd Gymreig ei ddylanwad anuniongyrchol ar y genedl. Cyn, ac wedi ei chyfodiad yn Nghymru, Calfiniaeth oedd yr athrawiaeth a bregethid fel rheol gan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid Calfinaidd. Dadleua rhai mai cyfodiad Wesleyaeth a barodd i'r Methodistiaid ac eraill fyned yn Uchel—Galfinaidd. Ond ni saif yr haeriad hwn i reswm nac ymchwiliad, oblegid ni wnaeth hyny ond rhoddi gwedd fwy dadleuol i bregethu y cyfnod. Ni pharhaodd pethau felly yn hir, oblegid canfyddwyd yn fuan arwyddion fod iachawdwriaeth neillduol etholedigaeth bersonol a diamodol, y ndechreu diflanu o'r tir o flaen cyhoeddiad yr Iachawdwriaeth Gyffredinol drefnwyd trwy yr Hwn a brofodd farwolaeth dros bob dyn: a rhaid i bob hanesydd diduedd gydnabod i Wesleyaeth wneyd ei rhan yn effeithiol iawn i ddwyn hyn oddiamgylch. Erbyn heddyw, mae yr athrawiaeth a bregethai ein tadau yn cael ei phregethu yn holl bwlpudau Cymru. Am Wesleyaeth Gymreig, llefarodd y Parch. E. James, Nefyn, o Gadair Undeb yr Annibynwyr fel y canlyn—"Ni ddechreuodd yr Enwad hwn yma hyd y Ganrif bresenol. Bendithiwyd yr Enwad er yn foreu a lluaws o bregethwyr rhagorol, rhai wedi eu gorlenwi â brwdfrydedd crefyddol. Cariasant ddylanwad daionus ar y weinidogaeth yn Nghymru, er ei dwyn i bregethu yr Efengyl yn eangach a mwy rhesymol nag y gwneid yma yn flaenorol. Iddynt hwy y perthyn yr anrhydedd o feddu y