Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/217

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cyhoeddiad misol Cymreig hynaf. Yn ddiweddar ymgymerasant yn egniol a cheisio enill tir newydd yn y De, ac nis gallwn lai na gweddio yn galonog am eu llwyddiant. Mae Wesleyaeth yn drefniant celfydd a nerthol."

Ychydig o ysbryd anturiaethus nodweddai Enwadau crefyddol Cymru ar ddechreu y Ganrif, i adeiladu Capelau a lleoedd cyfleus i addoli. Nid oedd rhif eu haddoldai ond ychydig o'u cymharu â rhif yr Eglwysi a gyfarfyddent mewn anedd-dai, &c. Ond dylanwadodd Wesleyaeth i fagu hunan-hyder a beiddgarwch ynddynt. Yr oedd hi o'i chychwniad yn cyfranogi o ysbrydiaeth anturiaethus y bywyd crefyddol Seisnig, ac felly yn alluocach i drefnu a chynllunio na'r Enwadau eraill. Ar y mater hwn difynwn. a ganlyn o ysgrif y Parch. J. Hughes (Glanystwyth), o Geninen Hydref, 1899:- Yr oedd Ymneillduaeth yn Nghymru, ar ddiwedd y Ganrif ddiweddaf, yn llawn o ysbryd y diwygiadau; ond o ran organyddiaeth a threfnidedd allanol, yr oedd mewn cyflwr digon afluniaidd. Troisai y wlad ei chefn ar y Clerigwyr, ac elai y torfeydd ar ol y pregethwyr. Nid yn unig yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi bod ar y tir am 160 mlynedd, ond buasai y Methodistiaid yn cynhyrfu y wlad am dros 60 mlynedd. Mae yn wir fod Cymdeithasau, neu, os myner Eglwysi, lawer wedi eu ffurfio; ond nid oedd ond ychydig o Gapeli wedi eu hadeiladu. Addolid mewn hen ysguboriau a thai anedd yn gyffredin. Nid oedd yn y Cymro galon i symud yn mlaen, ond fel y cludid ef gan y diwygiadau. Yr oedd angen am i ryw un gael ei anfon i ddywedyd "wrth feibion Israel gerdded rhagddynt." Ymddengys i mi fod y Cenhadon Wesleyaidd wedi eu hanfon i'r perwyl hwn. Yn ystod y pedair blynedd cyntaf o'u hanes adeiladodd y Wesleyaid dros ugain o Gapeli. "Y fath feiddgarwch! a'r fath ysbrydiaeth a dafodd hyn i'r Enwadau eraill . . . . Ni buasai Ymneillduaeth yn Nghymru yr hyn ydyw yn awr oni bai am y Capeli sydd wedi cael eu hadeiladu, ac yr oedd gan Wesleyaeth ran amlwg mewn cynyrchu ysbrydiaeth i ymgymeryd a'r gwaith." Mae rhif ein Capeli a'n meddianau Cyfundebol fel Wesleyaeth Gymreig yn 430, a'u gwerth cyfrifedig yn £320,000.