Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/218

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Os ychwanegir at hyn werth meddianau y Wesleyaid Seisnig yn Nghymru, cyfrifa o leiaf 750,000. Ar ddechreu y Ganrif nid oedd ond ychydig o weinidogion ordeiniedig yn perthyn i Ymneillduwyr Cymru, na chymaint ag un yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd. oddieithr clerigwyr o Urddau Esgobol. Yr oedd nifer y gweinidogion a gynhelid yn fugeiliaid gan yr Eglwysi yn ychydig, ac yn eithriadau. Yr oedd y mwyafrif mawr yn gorfod byw ar lafurwaith eu dwylaw, a thrwy gyflawni galwedigaethau bydol, ac felly gofalon y byd yn rhwystr iddynt gyflawni eu gweinidogaeth mewn llwyr-ymroddiad iddi. Ond yr oedd yn wahanol gyd â gweinidogion y Wesleyaid o'r dechreu, ni oddefid iddynt hwy ymrwystro â negesau y bywyd hwn, ond yr oeddynt i gysegru eu holl amser a'u hynni i waith y weinidogaeth. Yr oedd hyn yn beth newydd yn mhlith y Cymry Ymneillduol, ac ar y cyntaf gwrthwynebent y drefn. Ond yn araf enillwyd hwy drosodd i gydnabod ei rhagoriaeth, ac erbyn heddyw mae bron yn gyffredinol yn mhlith holl Enwadau Cymru. Beth fu dylanwad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn yr achos hwn, gadawn i'r darllenydd gasglu.

Bellach, edrychwn i gyfeiriady dyfodol, ac ymofynwn beth yw ein rhagolygon. Nis gallwn lefaru gyda sicrwydd diamheuol ar y cwestiwn hwn, ond gallwn deimlo yn dra diogel i edrych ar ein dyfodol yn ngoleuni ein mynedol, ac yn ngwyneb ein cyfaddasderau i gyflawni gwaith Duw dan unrhyw amgylchiadau allant gyfodi. Ni bu arwyddion bywyd erioed yn amlycach yn ein Cyfundeb nag ydynt yn awr, a rhagfynegant yn eglur yr estyner i ni eto hir ddyddiau i wneyd daioni. Bydd i Wesleyaeth Gymreig cydbarhau a'r iaith Gymraeg. Os i'w hi i farw, dydd ei thranc hi fydd dydd tranc Wesleyaeth Gymreig. Ac os digwydd hyn iddi, digwydda yr un dynged i'r Enwadau Cymreig eraill. Ac os bydd marw yr iaith ryw dro, nid Wesleyaeth Gymreig fel y cyfryw gaiff y golled fwyaf. Gall hi fyw yn well mewn awyr Seisnig na rhai o'i chymydogion. Aif hi trwy y trawsnewidiad heb golli dim o'i nerth na'i defnyddioldeb. Ar y tir hwn mai iddi cystal rhagolygon ag sydd i unrhyw Enwad Cymreig yn y Dywysogaeth. Efallai nas gallwn ddisgwyl dyfod yr Enwad cryfaf yn Nghymru; ond