Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghylch perthynas gadwedigol eu heneidiau â'r Gwaredwr. Aeth llawer i ofni nad oeddynt o nifer yr etholedigion, a rhodient yn alarus mewn tywyllwch yn nghylch eu cyflwr, ac arweinid ambell i un i ymylon peryglus anobaith. Fel hyn yr oedd Calfiniaeth wedi cymylu yn fawr grefydd brofiadol yn Eglwysi Cymru ar derfyn y ddeunawfed ganrif, ac yr ydym yn credu ei bod yn rhan o genhadaeth arbenig Methodistiaeth Wesleyaidd i'w hadfer i'w lle priodol yn mhrofiad y credadyn. [1]

  1. Ar ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg ystyrid y neb a feiddiai ddywedyd ei fod mewn cymod â Duw, ac mewn cyflwr cadwedigol yn rhyfygu ac yn berson i'w ochelyd bron fel heritic, a dirmygid y Methodistiaid Wesleyaidd yn fawr gan yr enwadau eraill am ei bod yn dysgu yr athrawiaeth hon. Fel prawf o hyn, nodwn y ddwy ffaith ganlynol fel engreifftiau. Yn nghofiant y Parch. Hugh Hughes, tudalen 33, ceir y ffaith gyntaf a nodwn yn y geiriau canlynol "Y peth mwyaf rhyfedd a ddigwyddodd i ni y flwyddyn hon (1808) ydoedd mewn cysylltiad â marwolaeth ddedwydd un o'n cyfeillion, sef, Mr. Rees, Ty-thrichrug, gerllaw Cilcenin. Yr oedd y dyn hwn wedi bod o nodweddiad lled wyllt, ac yr oedd efe a'i frodyr yn ymladdwyr anghyffredin, fel nad oedd mo'u bath yn y plwyf. Pan ddaeth y Wesleyaid i'r ardal gyd â'u gweinidogaeth danllyd, ond llawn o anogaethau i'r pechadur mwyaf i droi a dychwelyd at Dduw; a phan glywodd y gŵr y fath newyddion a hyn am gariad y Tad, helaethrwydd rhinweddau marwolaeth y Mab, a gallu ac ewyllysgarwch yr Yspryd Glan, i gynorthwyo pechaduriaid, cafodd ei argyhoeddi o'i angen mawr am Waredwr, ac unodd â'n Cymdeithas fechan oedd yn cyfarfod yn Plas, Cilcenin. Daeth yn ddyn newydd ac yn Gristion trwyadl. Byddai yn cyflawni ei ddyledswyddau crefyddol gyda'u deulu, a hyd yn nod y boreu cyn ei gymeryd yn glâf, yr oedd amryw o'i gymydogion wedi dyfod gyda'u menau (carts) i'w gynorthwyo i gludo coed, ond nid â'i efe o'r tŷ ar ol boreu-bryd heb ddarllen cyfran o air Duw a phlygu ar ei liniau gyda'i deulu a'r dyeithriaid oedd yno, i ofyn bendith ei Dduw ar waith y dydd. Yn yr hwyr, pan yn dyfod i fy ngwrandaw i'r Pennant, cafodd ei daraw yn glaf o'r clefyd y bu farw o hono yn mhen ychydig o wythnosau. Yr oedd hyn yr un pryd a phan oedd Mr. Williams yn glaf yn Rhiwlas, gerllaw Ty-thrichrug, a phan y byddwn yn dyfod i ymweled a Mr. Williams, byddwn yn myned i ymweled â'r brawd Rees, ac yn ymddiddan cryn lawer âg ef am ei gyflwr. Byddwn yn ei gael yn hynod o gysurus a dedwydd yn ei feddwl bob amser, a'i dystioliaeth yn hynod o eglur a chadarn am eu gymer- adwyaeth gyd â Duw, trwy haeddiant Crist. Wedi darllen cyfran o air Duw, a gweddio gyd âg ef, byddwn yn ei adael, yn gorfoleddu yn Nuw ei iachawdwriaeth. Byddai y cyfeillion yn ymweled âg ef yn bur fynych, yn enwedig dau o flaenoriaid oedd genym yn yr ardal. Aeth son trwy'r wlad mor ddedwydd yr oedd Rees o Dy-thrichrug yn ei gystudd! Y mae yn bur debyg fod peth o'r natur yma yn dra dyeithr yn y dyddiau hyny yn mhlith unrhyw blaid o Gristionogion, oddieithr y Wesleyaid. Dyma un o'r cyfeiliornadau mawr oeddym yn cael ein cyhuddo o'u plegid, sef, ein bod yn pregethu, ac yn gwasgu at ein haelodau, yr angenrheidrwydd o gael tystiolaeth o faddeuant pechod, a chymeradwyaeth gyda Duw trwy Grist! Ac y mae yn dra thebyg i hyny yn nghyda bod ei wraig yn aelod gyda'r Annibynwyr fod yn achos i'r Annibynwyr ddyfod yno yn fynych i'w weled, a darllen a gweddio gyd âg ef. Dywedodd y brawd ei hun wrthyf, ar un tro pan oeddwn yn ymweled ag ef, ddarfod i un o honynt, tra yn gweddïo, ddywedyd yn ei weddi, Os yw bosibl gyda thi, Arglwydd achub a goleua y dyn hwn.' Gwedi iddo godi oddiar ei liniau, gofynodd Rees iddo, a oedd efe yn ameu a allai Duw ei achub, gan chwanegu, Yr wyf fi, trwy drugaredd anfeidrol Duw yn haeddiant Crist, wedi fy achub, canys mi a wn i bwy y credais, ac y mae yn abl i gadw yr hyn a roddais iddo i gadw erbyn y dydd hwnw.' Ond ar un tro, tra yr oeddynt yn ymweled ag ef, ac yntau yn ol tyb pawb bron, bron a therfynu ei daith ddaearol, rhoddwyd y gair allan fod Rees wedi newid ei farn. Pan glywodd ein dau flaenor ni hyny, aethant i ymweled âg ef mor fuan ag y gallasant, a chyrhaeddasant yno cyn iddo farw; ac wedi ymddiddan ychydig gydag ef, gofynasant iddo am eu deimladau crefyddol, a pha beth oedd ei farn yn awr, yn ngwyneb angau, am yr athrawiaeth oedd wedi ei chredu a'i phroffesu? I hyn yr atebodd, Nid oes mo'i gwell, ac ni ddylai yr un gwaeth fod. A ddywedais i yn iawn?' ebe fe—Hyn wyf yn ei feddwl, fy mod i wedi mentro fy enaid arni, ac yr wyf yn ddiogel.' Yna dywedodd ein dau gyfaill wrtho yr hyn oedd y cymydogion wedi ei ddywedyd. Yntau a atebodd, Cymaint a ddywedais i wrthynt, oedd y byddwn i byw fel cymydog gyda hwy, os cawn i fyw; hyny oeddwn ni yn ei feddwl, peidio a dadleu gyd â hwy, a dim mwy na hyny, canys y maent yma wrthyf mor daer eisiau i mi newid fy marn.'
    Ar y tudalen 72 o'r un llyfr, cofnodir ffaith arall yn y geiriau hyn—Byddwn yn pregethu yn achlysurol yn y Dyffryn (Ardudwy) ar ganol dydd ar ddiwrnod gwaith. Ar ol yr odfa un tro, digwyddodd fod nai, neu ryw berthynas agos i wraig dduwiol iawn oedd gyda ni, yn glaf, ac aeth y wraig hon i ymweled âg ef. Yr oedd y claf yn isel iawn, bron a marw, ond yr oedd yn broffeswr crefydd. Dygwyddodd fod yno amrai o'i gydgrefyddwyr yn yr ystafell gyd âg ef. Pan aeth y wraig hon i mewn, y claf a ddywedodd Dyma y geiriau sydd yn fy mlino yn fawr, Ti a bwyswyd yn y glorian, ac a'th gaed yn brin.' Ar hyn dywedodd ein cyfeilles, Mi a welaf yn eglur na thâl dim yn ngwyneb marw ond crefydd brofiadol. Wedi hyn daeth y rhai oedd yno ati, gan ofyn iddi, pa beth oedd yn ei feddwl with grefydd brofiadol.' Hithau a atebodd mai adnabyddiaeth fod y pechod wedi ei faddeu, a'i bod yn ffafr Duw. Gofynasant a oedd hi yn gwybod am ryw un oedd yn profi hyny yn yr oes hon. Hithau a atebodd ei bod, ac nad oedd arni gywilydd dywedyd ei bod hi ei hunan, trwy ras Duw, yn gwybod hyny. Hwy a atebasant, nad oeddynt wedi clywed fod modd i neb wybod hyny. Hithau a ddywedodd Wel, nid yw ein pregethwyr a'n blaenoriaid yn ein cyfrif ni yn Gristionogion hyd nes y byddwn yn profi hyn; nid ydym yn ddim ond yn unig ein bod fel rhai yn ymofyn am grefydd.' Hwythau a ddywedasant, nad oedd neb yn gwasgu hyn arnynt hwy. Ac eto y mae yn bur debyg na allasant ameu dywediadau y wraig hon, canys un ragorol yn ei hardal ydoedd."