Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

2. Adfer i'w lle priodol ei hun y fendith o "Dystiolaeth yr Yspryd" yn mhrofiad y credadyn. Yr ydym yn dywedyd "Adfer i'w lle priodol ei hun," &c., oblegid yr oedd "tystiolaeth yr Yspryd" i gymeradwyaeth yr edifeiriol, a gredai am ei fywyd yn Nghrist Croeshoeliedig, yn fendith yr ymchwiliai llawer am dani yn mhlith Ymneillduwyr Cymru, yn enwedig y Methodistiaid. Yn nghyfnod boreuaf Methodistiaeth Galfinaidd, dygai yr Arolygwyr a ofalent am y cymdeithasau gyfrifon i'r Gymdeithasfa, yn cynwys rhif yr aelodau, yn ogystal a'u profiad crefyddol a'u cyflwr ysprydol. Yn yr adroddiad a ddygwyd o Gymdeithasau LLANFAIR-MUALLT, dywedir fod Thomas James yn meddu ar "Dystiolaeth gyflawn ac arhosol"; Evan Evans "wedi cael tystiolaeth, ond yn wan mewn gras;" Sarah Williams a Margaret Lewis "wedi eu cyfiawnhau." Ac yn Nghymdeithas DYFFRYN-SAETH уr oedd Jane John "yn meddu heddwch â Duw;" Jane Rhys "yn meddu ar amlygiad eglur o'i chyfiawnhad," a Sarah Thomas yn "meddu tystiolaeth amlwg o'i hachubiaeth trwy Grist." Meddai y rhai hyn a llawer eraill, dystiolaeth glir o'u cymeradwyaeth gyd â Duw. Ni phetrusai y Parch. William Williams, Pantycelyn, ddatgan yn groyw ei fod yntau yn meddu y Dystiolaeth, ac adnabyddiaeth sicr o berthynas achubol ei enaid â'r Gwaredwr, yn ei gân a elwir "Theomemphus," ac o'i gymeradwyaeth gyd â Duw—

"Ond pan nas gall'sai ddyoddef, dyoddef dim yn hwy
Gan wres a phoen digymhar, ei argyhoeddol glwy',
Danfonwyd gair i waered, fe dal ei gofio ef;
Gair oedd yn fwy na'r ddaear, gair oedd yn well na'r nef.
Rhaid oedd ei gael neu farw, hwn oedd y gair mewn pryd—
"Ha fab mae'th holl aflendid, 'n awr wedi'i faddeu i gyd,
Mae aberth wedi'i gaffael, fe gafwyd perffaith Iawn—
Am bob rhyw fai fu ynot, fe roddwyd taliad llawn.
Mae'n dywedyd, tra ar y ddaear, y cofia am yr awr,
Daeth nerth y nef i waered, i dori ei gadwyn fawr,
Ni red fyth o'i feddyliau, pa beth yw enw'r dydd
'N ol blynyddau maith o garchar, y rhoed ei draed yn rhydd."

Ond fel y rhoddid fwy-fwy o amlygrwydd i Galfiniaeth, yn y weinidogaeth, trwy y wasg, ac yn y gyfeillach Eglwysig, gweithiodd ansicrwydd i mewn i brofiadau y Saint, a syrthiasant i gyflwr o betrusder meddwl yn