Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

colledigaethau yn ewyllys Duw. Fel hyn y deallai y Parch. Samuel Davies 1af galfiniaeth y cyfnod yr oedd efe yn byw ynddo. Dros hon y dadleuai y Parchn. Christmas Evans, Thomas Jones, Dinbych, ac Evan Evans (Ieuan Glangeirionydd), ac eraill." Tuedd y fath athrawiaeth oedd dwyn difaterwch a dirywiad i fywyd ysprydol yr eglwysi, a'u darostwng i gyflwr diymadferth. Yn ngoleuni y pethau hyn, canfyddwn yn lled eglur beth oedd cenhadaeth arbenig Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru. Yr oedd ei chenhadaeth yn driphlyg. Yn

1. Rhoddi eu lle priodol eu hunain i'r ddwyfol a'r ddynol yn nhrefn cadwedigaeth pechadur. Bu yn Nghymru, fel y nodwyd yn barod, ddosbarth o grefyddwyr a alwent eu hunain yn Arminiaid, ond nid oedd eu Harminiaeth o gwbl yn Efengylaidd. Ac yn raddol llithrasant ar ysglentydd cyfeilionadau nes amddifadu Duw o'i le priodol ei hun yn nhrefn iachawdwriaeth pechadur. Trwy roddi gormod o le i ddyn a rhy fach i Dduw aethant yn Undodiaid. Wrth weled y traethoedd diffaeth ac oerion y glaniodd yr hen Arminiaid ynddynt, dychrynodd Ymneillduwyr Cymru rhag Arminiaeth, ac aethant i'r eithafon gwrthgyferbyniol. Cofleidiodd yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid, Galfiniaeth; gan dybio eu bod wrth wneyd hyny yn rhoddi i Dduw ei le priodol ei hun yn nhrefn y cadw. Ond dan y broffes o roddi i Dduw ei le, esgeulusasant roddi i ddyn ei le fel rhydd-weithredydd moesol, a gwnaethant ef yn beiriant goddefol hollol. Y pryd hwn gan hyny, yr oedd Uchel-Galfiniaeth, fel y dywedodd y diweddar Dr. John Thomas, Liverpool, "wedi dyfod yn genllif dros eglwysi ein gwlad." Gwrthweithio y llifeiriant hwn oedd rhan o genhadaeth arbenig y Methodistiaid Wesleyaidd yn Nghymru, a hyny trwy roi amlygrwydd i ddigonolrwydd darpariadau gras, cyffredinolrwydd galwad yr Efengyl, ac amodolrwydd trefn yr iachawdwriaeth. Mewn gair, rhoddi i Dduw fel Pen Arglwydd, ac i ddyn fel deiliad moesol, eu lle priedol yn nhrefn iachawdwriaeth, oedd un ran, ac, efallai, y bwysicaf, a'i gwnelai yn angenrheidiol am i Enwad arall gyfodi yn Nghymru. Hyd yn hyn nid oedd yr un enwad yn Nghymru yn rhoddi eu lle priodol eu hunain i Dduw a dyn yn ngwaith iachawdwriaeth pechadur.