Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyddol; a threfnwyd pob moddion i gael hyny yn sicr i ben. Ac y mae'r etholedigaeth hon yn dragwyddol, yn gyfiawn, yn benarglwyddiaethol, yn ddiammodol, yn neillduol neu bersonol, ac yn 'anghyfnewidiol, ac nid yw etholedigaeth gras yn drygu neb; er darfod i Dduw yn gyfiawn adael rhai heb eu hethol, eto, ni wnaeth efe ddim cam â hwynt; y maent yn yr un cyflwr a phe na buasai etholedigaeth yn bod; ac oni buasai etholedigaeth gras, ni buasai cadwedig un cnawd."

Rhoddir datganiad croyw yn yr erthygl hon i'r syniad uchel-Galfinaidd ar Etholedigaeth, oblegid dywedir ei bod yn ddiamodol, yn dragywyddol, a phen arglwyddiaethol, &c. Fel y gwelir, ceisir cuddio gwrthodedigaeth yn yr erthygl hon. Ond os etholedigaeth, rhaid fod gwrthodedigaeth fel y dysga Calfin ei hun —"Llawer, gan broffesu i amddiffyn y Duwdod rhag cyhuddiad atgas, a addefant athrawiaeth etholedigaeth, ond a wadant fod un dyn wedi ei wrthod Ond hyn a wnant yn anwybodus a phlentynwedd, gan nas gall etholedigaeth fod heb wrthodedigaeth yn gyferbyniol iddi." Ond cynwysa y "Gyffes Ffydd erthygl arall, sef y v., "Am Arfaeth Duw," ac felly wrth i ni edrych ar yr erthygl "Am Etholedigaeth Gras," yn ngoleuni yr erthygl "Am Arfaeth Duw," canfyddwn yn eglur mai yr un yw Calfiniaeth y Cyffes Ffydd" a Calfiniaeth Dort a Geneva. Dyma fel y darllena yr erthygl "Am Arfaeth Duw."

"Darfu i Dduw, er tragwyddoldeb, yn ol cynghor ei ewyllys ei hun, ac er amlygiad a dyrchafiad ei briodoliaethau gogoneddus, arfaethu pob peth a wnai efe mewn amser, ac i dragwyddoldeb, mewn creadigaeth, llywodraethiad ei greaduriaid, ac yn iachawdwriaeth pechaduriaid o ddynolryw; eto yn y fath fodd fel nad yw yn awdwr pechod, nac yn treisio ewyllys y creadur yn y cyflawniad o honi; ac nid yw arfacth Duw yn ymddibynu ar ddim mewn creadur, na chwaith ar ragwybodaeth Duw ei hun; ond yn hytrach gŵyr Duw y bydd y cyfryw bethau am iddo ef arfaethu eu bod felly. Y mae arfaeth Duw yn anfeidrol ddoeth, a pherffaith gyflawn; yn arfaeth dragwyddol; yn arfaeth rydd; yn arfaeth cang; yn arfaeth ddirgelaidd; yn arfaeth rasol; yn arfaeth sanctaidd; yn arfaeth dda; yn arfaeth anghyfnewidiol; ac yn arfaeth effeithiol."

Yn ngoleuni yr erthygl, canfyddwn yn eglur nad ydyw gadael rhai i'w colli byth, yn dibynu dim ar ragwybodaeth Duw, ond yn hytrach ei fod ef yn rhagwybod am iddo arfaethu hyny. Nid yw etholedigaeth Duw, ychwaith, yn dibynu dim ar unrhyw wahaniaeth rhwng y rhai a etholir a'r rhai a wrthodir, oblegid dyweder, "Nid yw Arfaeth Duw yn ymddibynu ar ddim mewn creadur," a chanlyniad anocheladwy yr athrawiaeth hon yw, fod achosedigaeth