Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganrif a'r bymtheg- Calfiniaeth Calfin, Cymanfa Dort, a hi yw Calfiniaeth y "Gyffes Ffydd" heddyw. A rhag i neb dybied ein bod yn camliwio difynwn yr awdurdodau. Yn gyntaf oll dyna Erthygl vi., &c., Cymanfa Dort, yr hon a ddarllena fel y canlyn-"Yn gymaint a bod Duw yn nhreigliad amser, wedi rhoddi ffydd i rai, ac nid eraill -mae hyny yn deilliaw o'i arfaeth dragywyddol ef, yn ol yr hon y mae efe yn tyneru calonau yr etholedigion, ac yn gadael y rhai anetholedig yn eu drygioni a'u caledrwydd." "Ac yn hyn y canfyddir y gwahaniaeth a wneir rhwng dynion cyfartal golledig, yr hyn yw arfaeth, etholedigaeth, a gwrthodedigaeth." Etholedigaeth yw arfaeth ddi- gyfnewid Duw, trwy yr hon y dewisodd efe yn Nghrist er cyn seiliad y byd nifer benodol o ddynion i iachawdwr- iaeth," &c. "Nid yw pob dyn yn etholedig, eithr y mae rhai yn anetholedig, y rhai yr arfaethodd Duw o'i ewyllys ddigyfnewid ei hun eu gadael yn y trueni cyffredinol, a pheidio rhoddi ffydd achubol iddynt, ond gan eu gadael yn eu ffyrdd eu hunain, eu condemnio a'u cospi yn dragywyddol am eu hangrediniaeth a'u pechodau eraill. Dyma arfaeth gwrthodedigaeth." A dyma ddysgeidiaeth John Calfin ei hun-"Wrth rhagluniaethiad yr ydym yn deall arfaeth dragywyddol Duw, trwy yr hon y penderfynodd ynddo ei hun yr oll y dymunai iddo ddigwydd gyd â golwg ar bob dyn. Nid yw pawb wedi eu creu i'r un dyben, eithr mae rhai wedi eu rhagordeinio i fywyd tragywyddol, ac eraill i ddamnedigaeth dragywyddol, ac yn ol fel y mae pob un wedi ei greu i'r naill neu y llall o'r dybenion hyn, y dywedwn ei fod wedi ei ragluniaethu i fywyd neu i farwolaeth." "Fod Duw, trwy ei gyngor tragywyddol a digyfnewid, wedi penderfynu unwaith am byth y rhai yr ewyllysia ryw ddiwrnod eu dwyn i iachawdwriaeth, a'r rhai hyny yr ewyllysia ar y llaw arall eu diofrydu i ddistryw." Ac i brofi mai Calfiniaeth Dort a Geneva oedd Calfiniaeth Cymru ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg, gwrandawn beth a ddywed Cyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd. Difynwn yma y xii. erthygĺ,"Am Etholedigaeth Gras."

"Darfu i Dduw, er tragwyddoldeb, ethol a neillduo Crist i fod yn ben-cyfammodwr, cyfryngwr, a meichnïydd i'w eglwys, i'w phrynu a'i gwaredu. Hefyd, etholwyd gan Dduw yn Nghrist dyrfa nas gall neb ei rhifo, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl, i sancteiddrwydd a bywyd trag-