Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Roberts, Llanbrynmair, ac erlidid ef yn fawr, a chauid rhai o bwlpudau ei enwad yn ei erbyn o'r herwydd. Yn wir, tybiai yr anfarwol Williams o'r Wern, ei fod "yn cyfeiliorni yn ddychrynllyd," er iddo ar ol hyny fabwysiadu yr un golygiadau. Heblaw rhoddi arddangosiadau sicr o gyffredinolrwydd darpariadau gras ar gyfer byd colledig, ac adnabyddiaeth bersonol o gyfnewidiad cyflwr, yr oedd yn rhan o Genhadaeth Wesleyaidd hefyd i ddysgu cenedl y Cymry am gynydd gras yn eneidiau y rhai oeddynt yn barod mewn perthynas gyfamodol â Duw, hyd at santeiddrwydd anian a buchedd, a hyny yn y bywyd sydd yr awr hon. Yn awr, dyma Genhadaeth arbenig Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru. Hi fel Enwad a gyfodwyd gan Dduw i ddysgu cyffredinolrwydd trefn y cadw, crefydd brofiadol, a pherffeithrwydd Cristionogol.