Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III.

Rhagbarotoad ar gyfer dyfodiad Methodistiaeth Wesleyaidd i Gymru.

YN blaenori pob symudiad pwysig ceir yn fynych gyd-gyfarfyddiad o amrywiol rag-barotoadau. Crea y cyfryw ddisgwyliadau am yr hyn sydd a'r ddyfod, fel y crea gwawr y bore ddisgwyliad am gyfodiad yr haul ac ymddangosiad y dydd. Ac fel hyn yr oedd cyn dyfodiad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig i'r Dywysogaeth; ymddangosai arwydd ar ol arwydd, a chlywid llais y naill rag-redegydd ar ol y llall yn llefain fod enwad arall ar gyfodi yn Nghymru, a chreodd hyn ddisgwyliadau yn meddyliau llawer am dano. Yn mhlith y rhag-barotoadau hyn gallwn nodi y rhai canlynol:-

1. Ar derfyn y ddeunawfed ganrif yr oedd cryn lawer o drafodaeth fasnachol yn cael ei chario yn mlaen rhwng gwahanol ranau o Gymru a threfydd mawrion Lloegr, yn y rhai yr oedd Methodistiaeth Wesleyaidd yn cyfodi yn gyflym i fod yn allu crefyddol mawr. Yr oedd y Cymry yn barod wedi cael allan fod gwahaniaeth mawr rhwng athrawiaethau y Methodistiaid Wesleyaidd a'r Methodistiaid Calfinaidd. Dysgai y rhai cyntaf, fod Crist wedi marw dros bawb, fod yr Yspryd Glân yn galw pawb, y gallai pawb trwy gynorthwy gras Duw edifarhau a chredu, ac felly fod yn bosibl i bawb fod yn gadwedig. Ond dysgai y Methodistiaid Calfinaidd, mai dros yr etholedigion yn unig y bu Crist farw, ac mai arnynt hwy yn unig y galwai yr Yspryd Glân yn effeithiol, ac nad oedd yn bosibl i neb ond hwynt- hwy yn unig fod yn gadwedig. Fel rheol, pan fyddai morwyr Cymru wedi glânio yn y porthladdoedd Saesnig, ymwelent âg addoldai y Methodistiaid Wesleyaidd, gwrandawent y gair yn ddi-ragfarn, a dychwelwyd llawer o honynt at yr Arglwydd, ac y mae hwn yn un rheswm fod