Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Methodistiaeth Wesleyaidd wedi llwyddo i fesur helaethach yn rhanbarthau arforawl Cymru nag yn y canolbarthau. Wedi dyfod adref adroddai y morwyr hanes eu hymweliad âg addolda y Sect newydd, beth oedd yr athrawiaeth a bregethid a'r dylanwad cydfynedol, nes codi awydd mewn llawer am gael cyfleustra i glywed y cyfryw drostynt eu hunain. Mae yr un peth yn wir hefyd am y masnachwyr a ymwelent â Llundain, Manchester, Liverpool, a Chaer, &c. Ac at hyn, yr oedd rhai a ddychwelwyd at yr Arglwydd dan weinidogaeth y Methodistiaid Wesleyaidd yn Lloegr pan yn trigianu yno, wedi troi eu gwynebau tu ag adref, ac adsefydlu yn ngwlad eu genedigaeth, ac yn dyheu am weled y dydd i Fethodistiaeth Wesleyaidd i gael ei sefydlu yn Nghymru.

2. Bu ymweliadau mynych y Parch. John Wesley, A.C., â Chymru yn foddion i ragbarotoi y ffordd i sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y Dywysogaeth. Ymwelodd â Chymru gynifer a dwy a deugain o weithiau yn ol y cofnodion a geir yn ei "Ddyddlyfr," ond nis gallwn fod yn sicr mai dyma nifer ei holl ymweliadau. A'r Deheudir yr ymwelodd fynychaf, a daeth yno y tro cyntaf ar wahoddiad taer Howell Harris, yn ol pob tebyg. Yr oedd agosrwydd y rhanbarth hwn, yn enwedig y cyrau pellaf o hono, i Bristol a'r lleoedd cylchynol, lle y treuliai Mr. Wesley lawer o'i amser, yn un rheswm dros ei ymweliadau mynych â'r Dê, ac at hyny, mai yno yr oedd y Diwygwyr Methodistiaid Cymreig yn llafurio. Ymwelodd o leiaf gynifer a phedair-ar-ddeg o weithiau â'r Gogledd; ac yn Ynys Môn y pregethodd gyntaf yn y rhanbarth hwn, a hyny ar ei fynediad a'i ddychweliad o'r Iwerddon. Cawn iddo bregethu dros ddau gant a haner o weithiau yn y Dywysogaeth. Ar rai achlysuron cawn ei fod yn pregethu trwy gyfieithydd. Ei arweinydd fel rheol, pan y teithiai o'r Dê i'r Gogledd, oedd y Parch. Mr. Phillips, periglor, Maesmynys, a naturiol casglu y byddai ef yn gweithredu fel cyfieithydd pan byddai amgylchiadau yn galw, oblegid pa gyfrif arall ellir ei roddi dros ei waith yn anfon Mr. Wesley amryw weithiau ar hyd yr un ffordd. Un arall a ganlynai Mr. Wesley ar ei deithiau yn Neheudir Cymru oedd Harri Llwyd, o Rhydri, a gweithredai ef fel cyfieithydd