Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo. Cawn ei hanes yn pregethu ar ben mynydd heb fod yn mhell o Lantrisant, i gynulleidfa fawr, ond gan mai ychydig a'i deallent, traddododd Harri Llwyd sylwedd ei bregeth yn Gymraeg, a hyny yn y fath fodd nes cyffroi cydwybodau y bobl, ac yr oedd effeithiau amlwg yn canlyn. Fel hyn yr oedd ymweliadau efengylydd mor enwog â Chymru yn galw sylw y bobl at Fethodistiaeth Wesleyaidd, ac yn sicr o fod yn parotoi meddyliau llawer i groesawi yr enwad a'r athrawiaeth pan yr ymddangosent mewn gwisg Gymreig. Ac yn ychwanegol at ymweliadau achlysurol Mr. Wesley, gellir nodi hefyd i'r achosion Saesnig oeddynt yn barod wedi eu sefydlu greu awydd mewn llawer am gael achosion Cymreig yn ogystal wedi eu sefydlu. Yn wir, gwnaed cais at Mr. Wesley ei hun i'r dyben hwnw.

3. Yn y flwyddyn 1777 ymunodd Dr. Coke, o Aberhonddu â Mr. Wesley, ac felly a'r Methodistiaid Wesleyaidd. Yr oedd ef yn ŵr mewn urddau eglwysig, ond oherwydd ei onestrwydd yn dynoethi pechadurusrwydd yr oes yn ei weinidogaeth rymus, erlidiwyd ef allan o'r Eglwys Wiadol, a chauwyd ei phyrth yn ei erbyn. Yr oedd ef yn Gymro twym-galon, a theimlai yn angherddol yn achos iachawdwriaeth ei genedl yn ol y cnawd. Efe mewn modd neillduol oedd olynydd yr anfarwol Wesley, ac megys y bu yr Arglwydd gyd â Wesley, felly hefyd y bu gyd â Dr. Coke. Yr oedd yn llawn yspryd cenhadol, a bu yn gyfrwng i sefydlu amryw Genhadaethau ydynt heddyw yn alluoedd cryfion yn Nheyrnas yr Arglwydd Iesu. Teithiodd lawer yn Nghymru, a phregethodd yn fynych ynddi. Adroddwyd i ni gan rai a'i clywsant mai yn Saesneg y pregethai, ond na phetrusai ddarllen ei destyn yn Gymraeg, ond Cymro clapiog ydoedd. Canlynid ef yn fynych yn ei deithiau gan ei briod, yr hon a wisgai ddiwyg hollol Gymreig. Yr oedd y syniad o sefydlu Cenhadaeth Wesleyaidd yn Nghymru yn gweithio yn rymus yn ei feddwl y blynyddoedd olaf o'r ddeunawfed ganrif, ac yn ddiameu yr oedd hyny yn rhagbarotoad i'r gwaith.

4. Yr oedd amryw o Gymry wedi ymuno â'r achos Saesnig yn amser Mr. Wesley, ac yn gydweithwyr âg ef i