Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddwyn y gwaith yn mlaen. Gallwn nodi yn gyntaf oll Thomas Oliver, o Dregynon, Swydd Drefaldwyn. Yr oedd yn Gymro, ac yn alluog i bregethu yn Gymraeg yn ol tystiolaeth Mr. Wesley ei hun, a diameu iddo bregethu yn yr hen iaith ar ei ymweliadau â'i gartref. Yr oedd ef yn bregethwr nerthol, yn fardd o fri, ac yn llenor cynyrchiol a choeth. Bu am flynyddoedd yn is-olygydd y Methodist Magazine, yr hyn a brawf ei fod yn sefyll yn uchel iawn yn syniad Mr. Wesley.

Un arall o'r rhag-redegwyr oedd Harri Llwyd, o Rhydri, yn Morganwg. Yr oedd yn ddyn duwiol iawn, ac yn hynod ar gyfrif unplygrwydd a thryloywder ei gymeriad. Efe ydoedd y pregethwr cynorthwyol Wesleyaidd cyntaf, galluog i bregethu yn yr iaith Gymraeg, a safai yn uchel iawn yn ffafr Mr. Wesley. Yn ol pob peth allwn gasglu efe a gyhoeddodd y llyfr Wesleyaidd Cymreig cyntaf erioed, sef cyfieithiad o bregeth y Parch. John Wesley, ar farwolaeth y Parch. George Whitefield. Un tro pan yn pregethu yn Cornwall, amgylchynwyd ef gan dyrfa o erlidwyr, ac ymosodent arno yn ffyrnig. Yn nghanol y cynhwrf trodd at Dduw mewn gweddi, gan weddio yn Gymreig. Ar hyny disgynodd ofn ar yr ymosodwyr, gan dybio fod rhyw beth yn oruwchnaturiol yn yr iaith ac yn y swn, a throisant eu cefnau arno, ac felly cafodd ddihangfa yn nghysgod yr hen iaith anwyl.

Yn "Yr Eurgrawn Wesleyaidd" am y flwyddyn 1830, tu dalen 10, adroddir i ni hanes am un William Roberts, yr hwn oedd yn frodor o Ddinbych, ond a ymsefydlodd yn gynar yn ei oes yn Liverpool, ac a ddychwelwyd yno at yr Arglwydd dan weinidogaeth y Methodistiaid Wesleyaidd. Oddeutu y flwyddyn 1779 talodd ymweliad â'i deulu yn Ninbych, a thra yno siaradai yn ddwys a gonest â'i berthynasau a'i gyfoedion am yr angenrheidrwydd o'u haileni, fel yr unig ffordd i fod yn gadwedig am byth. Cafodd ei sylwadau ddylanwad mawr ar feddwl ei frawd, Evan Roberts, yr hwn ar ol hyny a aeth i Liverpool ac a ymunodd a'r Gymdeithas Wesleyaidd. Tra yno cafodd gyfleustra i wrandaw ar Mr. Wesley yn pregethu, a chan fod ei galon yn dyheu am ddychweliad ei genedl a'i gymydogion yn Ninbych at yr Arglwydd, aeth at Mr.