Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wesley i erfyn arno anfon gyd âg ef un o'i bregethwyr i Ddinbych, ond yr atebiad a gafodd i'w gais oedd, "Nid oes genyf ond un yn alluog i bregethu Cymraeg (sef yr enwog Thomas Oliver), ac y mae ef yn rhy brysur gyd â'r argraff-wasg yn Llundain, fel nas gall ei gadael". Bu Evan Roberts yn bregethwr cynorthwyol llwyddianus, a phregethai yn Gymraeg cyn sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd yn y Dywysogaeth, a gwnaeth ei ran yn ardderchog fel rhag-redegydd yr enwad newydd. Teilynga Mr. Edward Linnell, yr hwn oedd yn gyllidydd yn Llansanan hefyd goffad o'i enw, ar gyfrif y cynorthwy a roddodd efe, ac yntau yn Sais, i barotoi y ffordd ar gyfer sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn Nghymru.

Perthyn i'r un dosbarth a Mr. Evan Roberts, yr oedd Mr. Richard Harrison, o Laneurgain. Dychwelwyd yntau at yr Arglwydd pan ar ymweliad â Liverpool, dan weinidogaeth y Methodistiaid Wesleyaidd. Wedi dychwelyd adref, ymunodd â'r achos bychan oedd wedi ei sefydlu gan y Saeson yn Llaneurgain, a chyn hir dechreuodd bregethu yn y ddwy iaith. Pregethai yn fynych yn mhlith y Methodistiaid Canfinaidd, ond gwrthododd yn bendant ymuno â hwy, er i gais i'r perwyl hwnw gael ei wneyd ato. Bu ei weinidogaeth o fendith i lawer yn Siroedd Dinbych a Fflint. Cafodd y fraint o weithio i barotoi y ffordd ar gyfer dyfodiad Wesleyaeth Gymreig i'r Dywysogaeth, a gwelodd droi yr achos Saesnig oedd yn Llaneurgain yn achos Cymreig. Bydd ei goffadwriaeth yn fyth fendigedig. Un arall a wnaeth wasanaeth i barotoi y ffordd ar gyfer sefydlu Wesleyaeth Gymreig yn Nghymru oedd Mr. Thomas Foulks, o Machynlleth. Yr oedd yn enedigol o Landrillo; ond symudodd oddiyno i Neston, Sir Gaer, a phan yno y dychwelwyd ef at yr Arglwydd dan weinidogaeth y Methodistiaid Wesleyaidd, ac ymunodd ar unwaith â'r achos yn Nghaer. Cyn hir ar ol ei ddychweliad dechreuodd bregethu. Symudodd oddiyno i'r Bala, ac ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, am nad oedd yno Fethodistiaid Wesleyaidd. Oddiyno symudodd i Machynlleth, ac nid esgeulusai yr un cyfleustra i fyned heibio heb ganmol Methodistiaeth Wesleyaidd, a bu ei air da Daliodd iddi a'i ddylanwad o'i phlaid o fantais fawr iddi. Daliodd