Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Foulks ei aelodaeth gyd â'r Methodistiaid Wesleyaidd Saesnig yn Nghaer tra y bu byw. Bob ffair Caer galwai gyd â'r gweinidog pwy bynag fyddai hwnw, a chyfranai iddo ei roddion wythnosol a chwarterol; ac yn ei EWYLLYS yr oedd wedi gadael swm o arian i'w talu bob blwyddyn tu ag at yr unrhyw achos, y rhai a dalwyd yn gyson hyd oni ddarfu i Mr. Charles, o'r Bala, dalu swm o arian i Eglwys y Methodistiaid Wesleyaidd yn Nghaer (gyd â'u cydsyniad hwy), yn hytrach na thalu swm yn flynyddol.

5. Yn Nghymru hefyd yr oedd llawer yn disgwyl ac yn dyheu am ddysgeidiaeth wahanol i Galfiniaeth ar athrawiaethau crefydd. Bellach, yr oedd y Beibl yn cael ei ddarllen gan llawer, a gwelent ei fod yn dysgu fod galwad yr efengyl ar bawb, a bod iachawdwriaeth yn cael ei chynyg i bob dyn yn ddiwahaniaeth. Nis gallwn ymatal heb ddifynu yma o "John Bryan a'i amserau gan y diweddar Dr. William Davies:-

"Un o'r pethau hynotaf efallai yn holl hanes y symudiad dan sylw, sef cychwyniad Wesleyaeth yn Nghymru, oedd y parodrwydd meddwl a amlygwyd mewn lluaws o engraffau i wneyd derbyniad o Wesleyaeth pan gafwyd cynygiad o honi. Cafodd ein cenadau cyntaf, mewn llawer iawn o fanau, yn ngwir ystyr y gair, bobl barod' iddynt. Cawsant eu 'hamserau' wedi eu rhagddarparu iddynt. Nid plygu eu hamserau' i'w hamcanion eu hunain a wnaethant, ond tystia pob peth fod rhyw law ddirgelaidd ac oll-effeithiol wedi bod ar waith yn rhagbarotoi Cymru i'r Wesleyaid, cyn gwneuthur o'r cenadau eu hymddangosiad yn y wlad. Eu cipio ymaith gawsant hwy, a hyny bron yn ddiarwybod iddynt eu hunain, gan Yspryd yr Arglwydd,' a llifeiriant amgylchiadau. Addefwn yn rhwydd, a dadleuwn hefyd, fod ein tadau hyny wedi eu cymhwyso yn gyflawn, yn hynod o gyflawn, i'r amserau disgynasant arnynt; ond rhaid i ni addef hefyd, yn llawn mor rwydd a hyny, fod y llaw alluog hono fu yn eu cymhwyso i'w hamserau' wedi bod ar waith ar yr ochr arall hefyd yn cymhwyso yr amserau' mewn modd nododig iddynt hwythau. Gwnaeth yr unig ddoeth Dduw yn yr achos hwn fel yn mhob achos arall y naill ar gyfer y llall, a phob peth yn deg yn ei amser.

Fel engraff foddhaol o'r neillduolder hwn, gallwn enwi yma yr afonydd- wch rhyfeddol oedd wedi ymgodi yn meddyliau llawer o bobl ddarllengar, ddifrifol, yr oes, o barthed i athrawiaethau yr Efengyl. Meddyliai llawer un fod pregethau uchel Galfinaidd y dyddiau hyny yn gwneyd cam dirfawr â hen athrawiaeth yr Efengyl am yr iachawdwriaeth gyffredinol.' llechai mewn llawer calon ddisgwyliad hiraethlawn a phroffwydoliaethol bron amgodiad y seren ddydd,' a thywyniad goleuni gwell ar drefn cadw dyn. Mor hynod o amlwg yw hyn yn hanes rhai o hen dduwiolion cyntaf ein heglwysi borcuaf vn Nghymru! Cyn i droed Cenhadwr Wesleyaidd rodio heol Conway erioed, yr oedd yn y dref hono yn byw hen ŵr a hen wraig o'r enw William a Jane Thomas. Yr oedd y ddau o dueddfryd sad a difrifol iawn. Cyrchent yn bur gyson i Gapel y Methodistiaid Calfinaidd,