Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel gwrandawyr beth bynag, os nad fel aelodau. Yr oedd un o honynt o leiaf, sef y wraig, yn medru darllen; ac yr oedd ol darllen llawer ar yr hen Feibl candryll a adawyd ganddi ar ei hol. Tystiodd un o blant y rhai hyn wrthym, flynyddau yn ol, iddo yn fynych, pan yn hogyn bychan, glywed y naill yn dyweyd wrth y llall ar ol d'od o'r odfaon, a darllen rhyw gymaint o'r gair, Yn wir wel' di, 'tydi petha'r bobl yma ddim yn ol y Beibl, wel' di, ma' r'wbath arall yn siwr o ddwad, gei di welad.' A phan ddaeth Mr. Jones, Bathafarn, a Mr. Bryan yno gyntaf i bregethu, dywedai y ddau, Dyma nhw! Dyma'r bobl i ni yn ddigon siwr!' Ac at y 'bobl' hyny yr ymwasgasant yn gyntaf rhai yn Nghymru. Ychydig yn uwch i fyny, heb fod yn mhell o Lanrwst, yr oedd hen wraig grefyddol iawn yn byw, sef "Dorothy Pierce, o Ribo." Deffrowyd y wraig hon i feddwl am ei chyflwr, ac i ymofyn am iachawdwriaeth. Ond methai yn lân ag ymfoddloni ar athrawiaethau cyfyng y dyddiau boreuol hyny. Yn aml dywedai, mai po fwyaf a wrandawai hi ar yr athrawiaeth, yr hon oeddynt ar y pryd yn ei phregethu, mai mwyaf yn y byd yr oedd hi yn cael ei chymell i beidio a chredu.' Credai yn ddiysgog fod yr iachawdwriaeth yn cael ei chyfyngu ganddynt, ragor yr oedd hi yn ngair Duw. Mawr oedd ei hiraeth am gael clywed rhyw rai yn pregethu Crist yn Geidwad digonol, presenol, a chyffredinol; i ddywedyd yn eglur am dystiolaeth yr Yspryd Glân, megys yr oedd hi yn gweled fod Crist a'i Apostolion yn gwneuthur. Tra yn aros yn y cyflwr hwn, mynych y gofynwyd iddi ei barn am bregethwyr a'u hathrawiaethau, a'i hateb fyddai mai nid Efengyl yr oeddent yn ei bregethu, ond y byddai i DDUW GYFODI ERAILL I SEFYLL DROS Y GWIR YN NGHYMRU. A thra yr oedd yr hen chwaer hon ar Graig Ribo, fel Simeon yn Jerusalem yn disgwyl am ddyddanwch Israel,' ymwelodd y Parch. J. Hughes gyntaf, a Llanrwst. Yn mhlith y dorf ddaeth i wrandaw yr oedd Dorothy Pierce. A bu pan glybu hi athrawiaeth eang, helaeth, rasol y gŵr dyeithr, nis gallodd ymnatal heb lefain allan Dyma y bobl a ddisgwyliais i, a dyma'r athrawiaeth yr wyf fi yn ei chredu canys yr ydwyf yn gallu gweled hon yn fy Meibl,'" (Gwel Eurgrawn 1809, tudalen 370, &c.)

Yn nghanol Lleyn, yn Sir Gaernarfon, y mae amaethdy golygus yn sefyll, o'r enw COCH-Y-MOEL. Yno o wyl Mihangel, 1792, ac yna am flynyddoedd lawer, yr oedd gwr o'r enw William Jones, yn byw. William Jones, Coch-y-moel' oedd enw adnabyddus iawn trwy yr holl gymydogaeth gynt, a chofir ef yn barchus gan rai yno hyd y dydd heddyw. Gwr synwyrol a phwyllog, ymchwilgar a diragfarn; cyfaill calon i'r Methodistiaid Calfinaidd, gwrandawr selog a chyson arnynt, a'i wraig yn aelod cyfrifol yn eu mysg—gŵr fel hyn oedd William Jones. Ac eto i gyd dyna a ddywedir am dano.--Er ei fod yn dwyn mawr sel dros achos y corph (Methodistaidd), eto nid oedd yn gallu credu eu pregethau; ac am hyny yr oedd yn hiraethu am gael clywed y gwir, sef PREGETHU CRIST YN GYFFREDINOL. Tua'r flwyddyn 1803, clybu Mr. Jones, fod un o'r Wesleyaid i bregethu yn Sarn Folltyrn, gerllaw Coch-y-moel. Aeth yno i wrandaw a chafodd ei foddloni yn gyflawn; do, nes y dywedodd, Dyma fy mhobl i, a'u Duw hwynt gaiff fod yn Dduw i minau. YR OEDDWN yn eu disgwyl yn barhaus er ys llawer dydd. A phan yr ymwelodd y Cenhadau Cymreig gyntaf â Sir Feirionydd, ni a gawn William Jones, Bryntirion (taid Mr. W. J. Morris, Abermaw), un o'r dynion mwyaf pwyllog, meddylgar a dysgedig trwy yr holl wlad, ac un a fuasai am chwe' mlynedd ar hugain yn aelod cyfrifol iawn o Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y lle hwnw (Bontddu), ar unwaith yn cydnabod y gwirionedd ac yn ei gofleidio. Ac felly hefyd y bu gyd â'r craffus a'r doniol Robert Jones, o'r