Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Brithdir, yn Sir Drefaldwyn, a llawer eraill, o ran hyny, y rhai nis gallwn yn awr eu henwi bob yn un ac un. Dyma ddosbarth o ffeithiau sicr ac anwadadwy. Wrth edrych arnynt, nis gallwn lai na'u hystyried yn un o arwyddion mwyaf tarawiadol yr amserau ag y soniais am danynt. Ac y mae yn gwasanaethu, dybygem ni, mewn modd effeithiol iawn, i brofi yn ddiameuol felly, fod amserau Mr. Bryan a'i gydweithwyr wedi cael eu parotoi iddynt yn llawn cyn i un ohonynt ddechreu gweithredu arnynt mewn modd yn y byd. Nid gwthio eu hunain allan cyn cael eu galw wnaeth y Cenhadau Cymreig; nage, nage, ond yr oedd agwedd pethau yn Nghymru, a llais Duw hefyd yn eu galw yn uchel, i ymaflyd yn eu gwaith. Yr oedd meddyliau llaweroedd o rai difrifol y wlad yn dechreu ymrhyddhau oddiwrth yr hen gredoau, dianrhydeddus i Dduw, a digysur i ddynion, ac yr oedd eisiau y GWIRIONEDD yn ei burdeb cariadlawn ac anogaethol i'w cadw rhag drifftio gyda chorwynt llygredigaeth i fôr marw amheuaeth, anffyddiaeth, ac annuwiaeth ymarferol. Cafodd Mr. Bryan, Jones, Bathafarn, a'u cydweithwyr hwy, dir wedi ei arloesi iddynt a'i gymhwyso i'r hâd da. Rhoddes Duw iddynt i fesur mawr bobl barod.'"

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Edward Jones (Bathafarn)
ar Wicipedia

6. Ond o bawb, yr un a ddefnyddiodd Duw benaf, ac a gymwysodd flaenaf oedd Mr. E. Jones, Bathafarn. Ganwyd y gŵr hwn ar y 9fed o Fai, 1777, yn Bathafarn, amaethdy golygus, ger llaw hen balasdy o'r enw, heb fod yn mhell o dref Rhuthyn, yn Nyffryn Clwyd. Enwau ei rieni oeddynt Edward a Jane Jones. Ganwyd iddynt bedwar o blant,- dau frawd a dwy chwaer. Ein gwrthrych oedd yr hynaf yn y teulu, a derbyniodd addysg dda yn ol safon yr oes hono, yn Ysgol Ramadegol Ruthyn, yr hon y pryd hwnw a olygid yn un o'r ysgolion goreu yn Ngogledd Cymru. Wedi treulio ei amser yn yr ysgol, symudodd yn fachgen lled ieuanc i Manchester, gan ddewis yn hytrach drin cotwm na thrin tir. Rhoddodd hyn fantais neillduol iddo i wel'd y byd, ac i raddau helaeth i adnabod ei wagedd a'i ffolineb. Yr oedd (yn ol tystiolaeth Mr. Bryan) o dymer addfwyn a heddychol, o ymddygiad caruaidd a thirion, ac yn enill iddo ei hun serch a pharch cyffredinol. Yn fuan wedi ymsefydlu yn Manchester arferai fyned i wrandaw Dr. Bayley, gweinidog enwog gyda'r Annibynwyr, yn nghyd â'n pregethwyr ninau, yn enwedig Mr. George Marsden, o dan weinidogaeth yr hwn yr ymunodd â'r Methodistiaid Wesleyaidd, ac y profodd faddeuant pechodau, a hyny yn hen Gapel Oldham Street ar nos Sabboth tua diwedd y flwyddyn 1795, pan nad oedd eto ond oddeutu deunaw mlwydd oed. Yn mhlith y dychweledigion y noson hono yr oedd un James Wood (tad y diweddar Dr. Wood, Southport), a Jabez Bunting, wedi