Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny Dr. Bunting. Ffurfiwyd cyfeillgarwch anwyl a chryf iawn rhwng Mr. Jones a Dr. Bunting fel cyfoedion yn yr Arglwydd ac fel cydweithwyr am dymor yn Manchester i enill eneidiau at y Gwaredwr. Bu Mr. Jones yn Manchester am bedair blynedd ar ol ei droedigaeth, ac ar hyd yr amser yn meddu ar adnabyddiaeth lawn o'i gymeradwyaeth gyd â Duw. Ei amcan ef yn myned i Fanchester oedd i ddysgu drin cotwm, gan ddisgwyl yn ddiameu dd'od yn Fasnachwr, os nad yn Farsïandwr yn y fasnach maes o law, ond i amcan arall yr anfonodd Duw ef yno, sef i gael ei achub, ac wedi hyny cael ei barotoi a'r gyfer y gwaith mawr o sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y Dywysogaeth. Yn ngoleu y ffeithiau a nodir yn y bennod hon, gwel y darllenydd yn eglur, fel yr oedd yr Arglwydd yn patotoi y ffordd i gyfodi Enwad arall yn Nghymru i gyflanwi gwaith ag oedd hyd yn hyn yn cael ei esgeuluso i fesur mawr iawn.