Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

Sefydliad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y Dywysogaeth

.

WEDI i Mr. Edward Jones, Bathafarn, gael ei ddychwelyd at yr Arglwydd yn hen gapel Oldham Street, Manchester, dechreuodd ef a'i gyd-ddychweledigion at yr Arglwydd i weithio drosto, trwy gynal cyfarfodydd gweddio mewn aneddau, a chymell eneidiau at Grist. Parhaodd felly yn llawn sêl a gweithgarwch yn Manchester am oddeutu pedair blynedd. Ond erbyn diwedd y flwyddyn 1799, yr oedd rhyw anesmwythder meddwl yn ei aflonyddu, ac yn denu ei fryd i ddychwelyd yn ol i'w wlad enedigol ac i dŷ ei dad, a dyma fel yr eglura ef yr amgylchiad,—"Yr achosion a barasant fy nychweliad (i Gymru) oedd marwolaeth fy mrawd, henaint a methiant fy rhieni, a'u bod hefyd o dan gymaint o ofal bydol. Y mae yn wir fod fy iechyd y pryd hwnw yn lled wanaidd, ac wedi bod felly er pan aethum gyntaf i Loegr, a bernid y buasai awyr iach gwlad fy ngenedigaeth yn dra llesol i mi." Ond credwn nad oedd yr hyn a grybwyllir yma fel achosion, yn ddim mwy na chymellion yn unig. Yr achos penaf o'i ddychweliad adref yn ddiameu oedd, galwad ddwyfol arno i fod yn offeryn i sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn ei wlad enedigol. Mor amlwg y canfyddwn yr arweiniad dwyfol yn ei dywys megys gerfydd ei law ar hyd ffordd na wyddai, i gyflawni gwaith nad oedd yn ymwybodol ar y pryd o'i bwysigrwydd a'i fawredd. Cyn gadael Manchester, galwodd gyd âg Arolygwr y Gylchdaith, sef y Parch. Samuel Bradburn, i fynegu iddo ei fwriad, ac i ddatgan ei drallod wrth feddwl tori i fyny ei gysylltiad â'r manteision crefyddol yn Nghapel Oldham Street, a gwynebu ar ardal nad oedd manteision cyffelyb yn perthyn iddi. Derbyniodd Mr.