Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bradburn ef yn garedig, ymddiddanodd âg ef fel tad, at chyngorodd ef i alw gyd â Gweinidogion Caerlleon ar ei ffordd adref, ac i geisio ganddynt fyned i bregethu yn yn achlysurol i Ruthyn. Ar y 30ain o Ragfyr, 1799, cefnodd ar Manchester, a chyrhaeddodd Caerlleon, ac arhosodd yno y noson hono. Galwodd gyd â'r gweinidogion, ac addawodd y Parchn. Thomas Hutton a George Morley, dalu ymweliad yn achlysurol â Rhuthyn, mor fuant ag y gallasai ef gael drws agored iddynt. Hefyd, tra yn Nhaerlleon, cafodd a'r ddeall fod yno wr ieuanc o Gymro yn ngwasanaeth Misses Williams, (y rhai a gadwent shop yno,) o'r enw John Bryan, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu gyda'r Saeson, ond heb fod ei enw eto ar y plan. Galwodd Mr. Jones gyd âg yntau hefyd, a chan fod y ddau o gyffelyb anianawd, aethant yn gyfeillion yn y fan, ac addawodd Mr. Bryan fyned i Ruthyn i bregethu ar gais ei gyfaill.

Y dydd olaf o 1799, cyrhaeddodd Mr. Jones adref i Bathafarn. Erbyn dranoeth yr oedd y flwyddyn newydd, ïe, yr olaf o'r ganrif wedi gwawrio, a dychymygwn weled y gŵr ieuanc gwelw ei wedd, ond hynod foneddig- aidd ei ymddangosiad, yn llawn pryder meddwl yn gwneyd ei ffordd yn nghyfeiriad Rhuthyn, i chwilio am ddrws agored i'r Methodistiaid Wesleyaidd i bregethu. Ac ar y 3ydd o Ionawr, 1800, cafodd hyd i le cyfleus yn mhen y dref i gynal cyfarfodydd crefyddol, sef ystafell eang oedd yn meddiant Mr. John Edwards, cariwr. Cymerodd hi, ac ynddi y dechreuwyd achos y Methodistiaid Wesleyaidd Cymreig. Y fath sel a beiddgarwch a nodweddai ymddygiad y gŵr ieuanc! Ai onid oedd yr hyn a wnaeth yn profi ei fod o dan yr arweiniad dwyfol ?

Daeth gweinidogion Caerlleon yno i bregethu yn ol eu haddewid, ond ychydig o les allasant ei wneyd, gan na allent bregethu yn iaith y bobl. A chan fod yn anhawdd cael neb i wasanaethu yn rheolaidd, angenrhaid a osodwyd ar Mr. Jones, Bathafarn, i sefyll yn yr adwy ei hunan, a bendithiodd Duw ei ymdrechion a llwyddiant amlwg. Yn mis Ebrill, 1800, daeth tro Mr. Bryan i dalu ymweliad â Rhuthyn, yn ol ei addewid. Aeth Mr. Jones, Bathafarn, yn nghyd â nifer o wŷr ieuainc oedd wedi ymuno âg ef i'w gyfarfod i ben Bwlch y Foel Famau, pellder o dair