Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

milldir o Rhuthyn. Wedi iddynt ei gyfarfod, a gwneyd y Ilongyfarchiadau arferol, ymunasant i ganu pennill wedi dyfod at ddisgynfa y mynydd, nes adseiniai y bryniau a'r cymoedd oddiamgylch, sef—

"Newyddion braf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddant gael eu dwyn ar go',
Fod Iesu wedi cario 'r dydd,
Caiff carcharorion fyn'd yn rhydd."

Yn mhlith y gwŷr ieuainc ddaethant gyd â Mr. Jones i gyfarfod Mr. Bryan yr oedd John Jones (nai i Mr. Owen Davies); Thomas Roberts (mab i Mr. Thomas Roberts, o Fonwm, gerllaw Corwen), a Robert Roberts, gŵr ieuanc oedd yn byw gyd â Mr. Roberts, siopwr parchus yn y dref. Wedi iddynt gyrhaedd cŵr y dref, ac wrth fyned i mewn iddi, canasant drachefn, a'r waith hon yr Emyn Seisnig:-

"Let earth and heaven agree,
Angels and men be joined,
To celebrate with me
The Saviour of mankind,
To adore the all-atoning Lamb
And bless the sound of Jesu's name."

Tynodd hyn sylw trigolion y dref, a chafwydd cynulleidfaoedd mawrion am ddau a chwech. Am yr oedfaon hyny fel hyn y dywed Mr. Bryan:—"Pregethais am ddau oddiar Galatiaid iii. 13, ac am chwech oddiar Marc xvi. 15. Aethum i mewn i'r lle mewn ofn a drychryn mawr. oedd yno gynulleidfa liosog, a'r nifer fwyaf o honi yn Gymry. Siaradais yn Saesneg ac yn Gymraeg hefyd. Gelwais y Society ar ol, ar derfyn oedfa'r nos. Yr oedd yr amser hwnw yn un pur hynod: mor amlwg oedd nerth Duw yn y lle, fel mai prin y gellid fy nghlywed i gan sŵn y bobl yn gwaeddi am drugaredd, ac eraill yn clodfori Duw. Cafodd un gwrthgiliwr ei adferyd. Argyhoeddwyd amrai, a chafodd tri neu bedwar heddwch tuag at Dduw, a ymunasant â'r Society." Y Sabboth cyntaf yn Mehefin, 1800, ymwelodd Mr. Bryan drachefn â Rhuthyn, a phregethodd yno yn yr hwyr. Cynhaliwyd Society am chwech o'r gloch bore dranoeth, ac ymunodd pump neu chwech o'r newydd. Yr oedd 31 yn bresenol. Mor eglur y prawf hyn fod yr achos o dan yr arddeliad dwyfol. Calonogai