Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn Mr. Edward Jones yn fawr, ac eto yr oedd pryder meddwl yn nghylch dyfodol yr achos yn gwasgu yn drwm arno, nes peri i'w gnawd gurio. Gwnai ei oreu gyd â'r achos, ac ymwelai â'r ardaloedd cylchynol, gan gymell eneidiau yn mhob man at y Gwaredwr.

Bellach, hiraethai Mr. Jones yn fawr am gael gweled Cenhadaeth Wesleyaidd Gymreig wedi ei sefydlu yn y Dywysogaeth. A fu ef mewn gohebiaeth a Dr Coke, neu â'r Parch. Samuel Bradburn ar y mater, nis gwyddom, ac eto y mae genym le i gasglu hyny. Y flwyddyn hon (1800) cynhelid y Gynhadledd yn Nghapel City Road, Llundain. Yr oedd yn ddiweddar ar Dr. Coke yn cyrhaedd yno, am ddarfod ei gadw yn y Werddon gan wyntoedd croesion. Yr oedd rhyw un wedi galw sylw y Gynhadledd at sefyllfa ac anghenion Cymru cyn iddo ef gyrhaedd, ond nid oedd unrhyw ddarpariaeth wedi ei gwneyd ar eu cyfer. Llywydd y Gynhadledd y flwyddyn hono oedd y Parch. James Wood, â'r Parch. Samuel Bradburn yn Ysgrifenydd. Yn fuan wedi cyrhaedd, dygodd Dr. Coke achos y Cymry ger bron y Gynhadledd, a dangosodd yr angenrheidrwydd am anfon Cenhadon i Ogledd Cymru i weinidogaethu i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain. Rhydd y Parch. John Hughes, Aberhonddu, i ni grynhodeb o'i araeth ger bron ei frodyr ar yr achlysur fel hyn—

"Mae fy nghalon yn ymgynhyrfu ynof," medd y Doctor, "o herwydd fy mherthynasau, plant y Cymry, y rhai sydd yn trigo yn mharthau y gogledd. Onid yw tywyllwch yn gorlanw y wlad? ac onid oes llawer yn cael eu dinystrio o eisieu gwybodaeth? canys nid yw y gweinidogion sydd yn eu gwlad yn mynegu iddynt yn llawn gyngor y Goruchaf. Am hyny clust—ymwrandewch a mi, ac ystyriwch, mi a atolygaf arnoch, yr hyn a ddaw allan o'm genau. Bydded i ni wneuthur fel hyn; ymholwn yn ein mysg ein hunain am un a fo ewyllysgar i fyned i dir Cymru, ïe, i blith hiliogaeth Gwynedd; a bydded iddo bregethu i'r bobl yn yr hen iaith, ïe, iaith Gomer; yn ddïau hwy a wrandawant arno, ac a ymostyngant i air yr Arglwydd, ac a ddychwelant oddiwrth eu pechodau."

Cariodd y Doctor y Gynhadledd i'w ganlyn gyd â'r