Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

araeth hon, a chyfododd un o'r frawdoliaeth, yr hwn oedd. yn frodor o'r Deheubarth, a llefarodd fel hyn—

"Onid oes yn ein mysg ŵr ieuanc o hil y Cymry, yr hwn all siarad iaith pobl ei wlad? Bydded i ni chwilio allan am un arall i gydymdeithio âg ef; yna ant ac ymdeithiant yn y Dywysogaeth, ac, ysgatfydd, gwrendy y bobl arnynt hwy, ac y deuant i adnabod daioni a thiriondeb yr Arglwydd."

Yr oedd y sylwadau hyn yn dra chymeradwy gan y Gynhadledd, ac ymgynghorwyd â'r Parchn. Owen Davies a John Hughes, a gofynwyd iddynt "A ewch chwi mewn gwirionedd i ymweled a'ch pobl er eu lleshad ?" A hwy a attebasant—"Awn yn ddiau." Ac felly ar ddymuniad Dr. Coke, sefydlwyd y Genhadaeth Wesleyaidd Gymreig, a phenodwyd yn Genhadon, yn

1. OWEN DAVIES, genedigol o Wrexham. Galwyd ef i waith y weinidogaeth yn 1789, ac ar ol bod gyd â'r Saeson am ddeuddeg mlynedd, daeth i Gymru yn 1800. Dychwelodd i'r gwaith Seisnig yn 1816. Bu farw yn Liverpool yn 1830, yn ei 78ain mlwydd o'i oedran, a'r 41ain o'i weinidogaeth.

2. JOHN HUGHES, O Aberhonddu. Dechreuodd ef deithio yn 1796. Bu yn y weinidogaeth yn mhlith y Cymry a'r Saeson am 47ain o flynyddoedd. Hunodd yn orfoleddus yn yr Iesu yn Knutsford Mai 13, 1843, yn 67ain mlwydd oed.

Gosodwyd hwy i lawr yn y Sefydliadau ar Ruthyn. Cymerodd hyn le Awst 6ed, 1800, pan oedd Sefydliadau y Gweinidogion am y flwyddyn ddyfodol wedi eu cwblhau, os nad wedi eu cadarnhau, a'r Parch. O. Davies i lawr ar Gylchdaith Redruth yn Nghernyw, a'r Parch. John Hughes wedi ei benodi i Leek. Credwn nad oedd neb yn perthyn i'r cyfundeb y pryd hwnw a allasai gario penderfyniad i sefydlu Cenhadaeth yn Nghymru dan y fath amgylchiadau ond Dr. Coke.

Wedi cadarnhau y penodiad, ysgrifenodd y Parch. Owen Davies at Mr. Edward Jones, Bathafarn, i'w hysbysu o'r trefniadau a wnaed gan y Gynhadledd ar gyfer Cymru. Cyrhaeddodd y llythyr pan oedd y gŵr ieuanc yn esgyn