Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llechwedd y Foel gyfagos i fyned i fyny i Fwlch-pen-baras, gan feddwl marw yno ar ben y mynydd, megys y bu farw Moses ar ben Pisgah. Ond nid oedd yr amser wedi dyfod iddo ef esgyn mynydd Abarim i farw gerbron yr Arglwydd, oblegid yr oedd gan yr Arglwydd waith mawr iddo i'w gyflawni. Felly, tra yr esgynai fel hyn i'r mynydd yn brudd ei feddwl, rhedai y gwas ar ei ol, gan ei hysbysu fod llythyr wedi dyfod iddo. Ar hyn dychwelodd, a phan gafodd y llythyr, a'i agor, a'i ddarllen, canfyddai ei fod yn cynwys y newydd da a adroddwyd yn barod. A dyma fel yr edrydd Mr. Jones ei hun yr hanes "Parodd y newydd y fath lawenydd i'm calon, fel na theimlwn y nychdod a'r gofid hwn mwy. Mr. Jones, Bathafarn, oedd tad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, ac fel hyn y dywed Mr. Bryan am dano—" Ond Mr. Jones a gafodd y fraint o agor y drws i bregethu ein hathrawiaethau yn gyffredinol yn Nghymru yn yr iaith Gymraeg, ïe, ac i bregethu yn gyntaf mewn llawer o fanau yn y Gogledd â'r Dê," &c. Galwyd ef i waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1802. Yr oedd yn un o'r pregethwyr cyfaddasaf i gyfarfod âg anghenion yr Amserau ag oedd ar y maes ar y pryd. Nid oedd yn ail i neb am egluro—

Dyfnder calon dyn truenus,
Ac anfeidrol ddwyfol ddawn."

Am dano ef y dywedodd y Parch. Owen Davies, yr hwn. oedd wedi cael pob mantais i'w adnabod-

"He points the dying to the living word,
The dying hear, and are to life restored."

Yr oedd y Parch. Hugh Hughes, Llanor, yn adnabod Mr. Jones, Bathafarn, yn dda, ac fel hyn y tystiolaetha am dano—"Bu ef yn un o'r rhai cyntaf i ddechreu y gwaith yn y rhan fwyaf o leoedd yn y Gogledd a'r Deau, yn enwedig yn y trefydd; a dïau ei fod wedi ei gyfodi a'i addasu gan Dduw at y Gorchwyl, fel yr oedd yn dra llwyddianus i ba le bynag yr elai. Dios genyf y bydd rhai miloedd yn molianu Duw yn oesoesoedd am ei anfon allan, nid yn unig yn mysg y Wesleyaid, ond yn mysg pob plaid o grefyddwyr yn Nghymru Diameu fod miloedd wedi