Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymuno a phleidiau eraill, a gawsant eu hargyhoeddi o dan ei weinidogaeth ef." Bydd enw Mr. Jones, Bathafarn, byth yn anwyl, yn uchel, ac yn anrhydeddus yn mhlith Wesleyaid Cymru.

Bellach, dychwelwn yn ol at y ddau Genhadwr, sef y Parchn. Owen Davies a John Hughes, y rhai a benodwyd gan y Gynhadledd i sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd yn yn y Dywysogaeth. Ymddengys iddynt cyn gadael y Gynhadledd, neu yn fuan wedi hyny, gytuno i gyfarfod a'u gilydd yn Wrexham, Awst 22ain, 1800, ac i ddechreu yno ar y gwaith mawr eu penodwyd iddo. Ac ar y dydd canlynol, sef Awst 23ain, 1800, y digwyddodd y Sabboth cyntaf erioed yn hanes y Weinidogaeth Wesleyaidd Gymreig. Pregethodd Mr. Davies yn Wrexham, ac aeth Mr. Hughes i Brymbo. A'r nos Sul hwnw yn Brymbo y pregethwyd y bregeth Gymreig gyntaf erioed gan weinidog Wesleyaidd o benodiad y Gynhadledd i'r gwaith Cymreig. Ei destyn oedd—"Ymarfer attolwg ag ef, a bydd heddychlawn; o hyn y daw i ti ddaioni," Job xxii. 21. Awst y 27ain, 1800, cyrhaeddodd y Parchn. O. Davies a J. Hughes i Ruthyn, pen tref eu cylchdaith newydd, terfynau yr hon oedd yn ogyfled â'r Dywysogaeth. Y Sul canlynol, sef Awst 30ain, 1800, pregethodd Mr. Davies yn Dinbych, a Mr. Hughes yn Rhuthyn a Llanfair, a phrofiad yr olaf ar derfyn y dydd oedd—"Ni theimlais erioed fwy o bresenoldeb Duw wrth bregethu."

Nis gwyddom yn sicr nifer yr aelodau oedd dan ofal Mr. Edward Jones, Bathafarn, yn Rhuthyn, pan ddaeth y Cenhadon yno, ond yn ol tystiolaeth Mr. Owen Davies nid oeddynt yn llawn haner cant. Fel y nodwyd, yr oedd yn bresenol yn y Society a gynhaliwyd yn Rhuthyn am 6 o'r gloch y bore, Mehefin yr 2il, 1800, oddeutu deg a'r hugain, a dywedir fod amrai yn absenol. Mewn llythyr at Dr. Coke, Ionawr 14eg, 1803, dywed y Parch. Owen Davies—Yr oedd ein cynydd y chwarter diweddaf (sef Chwarter Rhagfyr 1802) yn 350. Fel hyn y mae y fechan nad oedd uwchlaw 46, ychydig amser yn ol, yn awr ddiadell yn rhifo 990." Felly, nid oedd ar y tir pan gychwynodd y Cenhadon lawn 50 o aelodau, ond mae yn debyg na chyfrifid yn y cyfryw yr aelodau oedd yn Ninbych a Llan-