Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eurgain, y rhai a drosglwyddwyd oddiwrth y Saeson i ofal y Genhadaeth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o hanes yr achos, ymwelodd y ddau Genhadwr â llawer o fanau yn Nghymru, a chawsant mewn amryw leoedd bobl barod i'w derbyn. Nis gellir cael hyd i'r cynydd a fu yn rhif yr aelodau yn ystod y flwyddyn gyntaf o oes y Genhadaeth, am fod Cenhadaeth Ludlow yn nglyn a Rhuthyn yn y cyfrif a geir yn Nghofnodau y Gynhadledd 1801. Ond yn hanes bywyd y Parch. John Hughes, Aberhonddu, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, ac a barottöwyd i'r wasg gan y Parch. William Rowlands, mae genym seiliau i gasglu eu bod oddeutu 180.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1801 yn Leeds—Y Parch. John Pawson yn Llywydd, a'r Parch. T. Coke, Ll.D., yn Ysgrifenydd. Yn y Gynhadledd hon galwyd allan


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Bryan
ar Wicipedia

MR. JOHN BRYAN i waith y weinidogaeth. Bu o wasanaeth fawr i'r achos Cymreig hyd y flwyddyn 1816, pryd y penodwyd ef i Gylchdaith Seisnig. Yr oedd, er yn fychan o gorpholaeth, o ymddangosiad boneddigaidd, o wroldeb arfeiddiol, yn bregethwr grymus, ac yn Emynydd rhagorol. Ymneillduoedd yn y flwyddyn 1822, ac yn mlynyddoedd olaf ei oes llafuriodd yn gymeradwy iawn fel pregethwr cynorthwyol. Bu farw yn Nghaernarfon Mai 28ain, 1856, yn 87ain oed.

Yn ystod y flwyddyn, o Awst 1801 hyd 1802, eangwyd terfynau y gwaith yn fawr yn gyntaf trwy gymeryd trosodd leoedd a berthynent hyd hyny i Gylchdaith Seisnig Caerlleon, sef, Wrexham, Bangor-is-y-coed, Bersham, Caergwrle, a Brymbo; ac yn ail trwy ychwanegu llawer o leoedd newyddion yn Siroedd Dinbych, Fflint, Meirion, Maldwyn, &c.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1802 yn Bristol, pryd y dewiswyd y Parch. Joseph Taylor yn Llywydd, a'r Parch. T. Coke, Ll.D., yn Ysgrifenydd. Yn ol y cyfrifon a gyflwynwyd o Gymru i'r Gynhadledd hon, yr oedd rhif yr aelodau perthynol i'r Genhadaeth Gymreig wedi cynyddu i 545, ac felly wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn. Yn y Gynhadledd y flwyddyn hon galwyd allan dri o'r newydd i'r gwaith—