Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1. EDWARD JONES, Bathafarn. Llafuriodd yn Nghymru gyd â llwyddiant mawr am bymtheg mlynedd, ac wedi hyny cymerwyd ef i'r gwaith Seisnig. Bu farw yn Leek yn y flwyddyn 1837 yn ei dri-ugeinfed flwydd o'i oedran a'r 35ain o'i weinidogaeth.

2. JOHN MAURICE, Llanfair, Dyffryn Clwyd. Wedi bod yn y weinidogaeth am wyth mlynedd, ymneillduodd, ac aeth yn bregethwr cynorthwyol. Bu farw yn Ninbych yn 1842 yn 72ain mlwydd oed.

3 JOHN JONES, Corwen. Galwyd ef i'r gwaith ar ol y Gynhadledd. Wedi teithio yn Nghymru am 15 o flynyddoedd, aeth i'r gwaith Seisnig. Bu farw yn Hornsea yn 1851 yn ei 69ain mlwydd o'i oedran a'r 49ain o'i weinidogaeth.

Gwnaed gwaith mawr yn ystod y flwyddyn hon mewn eangu terfynau, sefydlu Eglwysi, ac adeiladu Capeli. Yn ol cofnodau y Gynhadledd am 1802, yr oedd y Parch. Owen Davies wedi ei gynysgaeddu a gallu ac awdurdod i arfer ei ddoethineb i lafurio fel, ac yn y lle a farnai ef oreu er mantais y Genhadaeth. Ác wrth adolygu ei symudiadau ar ol i gan' mlynedd fyned heibio, rhaid cydnabod iddo symud yn bwyllog a doeth gyd â phob rhan o'r gwaith. Gallwn edrych ar y tair blynedd cyntaf, sef o'r Gynhadledd 1800 hyd 1803 fel tymhor prawf Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, ac am y cyfnod hwn nid oedd ond Cenhadaeth yn unig, ac yn perthyn i Dalaeth Seisnig. Ond daeth trwy y prawf yn llwyddianus iawn, ac edrychid arni gan y Gynhadledd fel cangen obeithiol yn y Cyfundeb. Un Gylchdaith oedd y Genhadaeth Gymreig hyd yn hyn, sef,

RHUTHYN—Owen Davies, John Hughes, Edward Jones, John Maurice.

Mewn adgof am y tymhor llwyddianus hwn, cyfansoddodd y Parch. Owen Davies y llinellau canlynol, y rhai a gyfieithwyd i'r Gymreig gan y Parch. John Bryan-

Tegwch dyffrynoedd bryn a bro!
Sain can cantorion lawer tro
D'wedodd haneswyr am dy fri—
Gogoniant Cymru oll wyt ti.