Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD V.

Eglwysi y Methodistiaid Wesleyaidd Gymreig
yn cael eu Corphori yn Dalaeth, a'r llwyddiant
Di-Gyffelyb a Ddilynodd.

(O 1803 hyd 1811)

ARWEINIR ni yn awr at yr Ail Gyfnod yn hanes Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, ac ar amryw gyfrifon yr hynotaf a'r pwysicaf. Gwneir y cyfnod hwn i fyny o wyth mlynedd, sef o Gynhadledd 1803 hyd Cynhadledd 1811. Ni fu cyfnod yn ein hanes mor lwyddianus a hwn mewn cynydd yn rhif yr aelodau, mewn planu Eglwysi, adeiladu Capelau, ac, hefyd, yn nifer y rhai a alwyd allan i waith y weinidogaeth.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1803 yn Manchester. Etholwyd y Parch. Joseph Bradford yn Llywydd, a'r Parch. Thomas Coke, LI.D., yn Ysgrifenydd. Cafodd yr achos Cymreig sylw neillduol yn y Gynhadledd hon, oblegid ynddi y Corphorwyd y Genhadaeth yn Dalaeth, a galwyd a chysylltwyd â hi hi yn "Dalaeth Gogledd Cymru," Gylchdeithiau Seisnig Trallwm a Wrexham. Rhanwyd, hefyd, faes y Genhadaeth Gymreig yn ddwy Gylchdaith, a galwyd y naill yn Rhuthyn a'r llall Caernarfon; ac at hyn. penodwyd Cenhadwr Cymreig i lafurio yn Liverpool, sef y Parch. John Bryan. Ar y Sefydliadau yr oedd ef i lawr ar Gylchdaith Seisnig Liverpool, ond gyd â'r deall ei fod yn gweinidogaethu i'r Cymry. Rhif yr aelodau y flwyddyn hon oedd 1344, yr hyn a ddangosai gynydd ar y flwyddyn flaenorol o 799. Galwyd tri o'r newydd i'r gwaith y flwyddyn hon—

1. ROBERT ROBERTS, o Fonwm, ger Corwen. Yr oedd ef yn ddyn o dalentau disglaer iawn. Penodwyd ef yn Olygydd yr Eurgrawn yn 1809. Byr fu ei ddiwrnod