Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaith. Gorphenodd ei yrfa ddechreu y flwyddyn 1818, yn ei 34ain flwydd o'i oedran a'r 15fed o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM JONES, Llanelidan. Yr oedd ef yn bregethwr poblogaidd. Ond oddeutu y flwyddyn 1808 llithrodd ar lwybr ysglentog temtasiwn, a'i gwymp a fu fawr. Gwasgodd drachefn at yr achos, a bu farw yn glynu wrtho.

3. THOMAS ROBERTS, o Fonwm, ger Corwen. Yr oedd ef yn frawd i Robert Roberts. Galwyd ef allan rywbryd ar ol Cynhadledd 1803, oblegid ni cheir ei enw ar Gofnodau y Gynhadledd hon. Yn mhen ychydig amser torodd ei iechyd i lawr, a gorfu iddo ymneillduo.

Mewn cyfeiriad at y gwaith yn Nghymru, ceir y crybwylliad canlynol yn Ngyfarchiad Bugeiliol Cynhadledd 1803—

"Yn gyffelyb, meddwn yn awr Genhadaeth yn yr iaith Gymreig, yn Nhywysogaeth Cymru; yr hon, ar hyn o bryd, sydd i'w chyfrif y fwyaf llwyddianus o Genhadaethau y dydd. Cyfodwyd amryw bregethwyr, adeiladwyd llawer o Gapelau, a thueddir torfeydd i wrandaw gair y bywyd, fel ag y meddwn yn y rhan hon o'r Ynys ragolygon dymunol am eangiad gwaith yr Arglwydd. O'r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni."

Yn y Gynhadledd hon penodwyd y Parch. Owen Davies yn Gadeirydd y Dalaeth, ac felly efe oedd y Cadeirydd cyntaf mewn cysylltiad a'r achos Cymreig. Yn gysylltiol a'i bennodiad ceir y nodiad canlynol—"Brother Davies has a discretionary power to labour as and where he judges best for the advantage of the Mission, and shall have the Superintendence of the whole Mission, and authority to change the Preachers as he judges best." Dengys hyn fod y Gynhadledd wedi cyflwyno i Mr. Davies awdurdod na chafodd neb arall mo'i gyffelyb yn Nghymru na Lloegr, yr hyn a brawf mor uchel y safai yn nghyfrif ei frodyr, yn enwedig yn nghyfrif Dr. Coke.

Bellach, yr oedd Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn gweithio ar linellau newyddion, a diameu i'r sylw a gafodd gan y Gynhadledd daflu ysprydiaeth newydd i'r rhai oedd yn llafurio ar y tir. Dechreuwyd y flwyddyn